A20213:529
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Phila. Dangoswch hyn, adolwyn in eglurach.
Phila. Dangoswch hyn, adolwyn yn eglurach.
Theol. Dal sulw ar hyn yr ydym ym mhob profiad: o bid pennaeth in ŵr da, ac ynddo lawyer o ddoniau rhagorol, o rywiogeiddrwydd; dioddefgarwch, gostyngeiddrwydd, a chariad▪ i wîr grefydd: er hynny os bid efe in chwannog, y bobl gyffredin a graffant ar hynny in fwyaf, ac â ddywedant, y cyfryw bendefig sydd ŵr da jawn, oni bay un peth, y mae efe in chwannog dross ben, in gorthrymmu tlodion, in dôst wrth eu ddetliaid, heb gadw tŷ jawn, ac in gwneuthur ychydig ddaioni in ywlâd lle' yr erys. A hyn yw'r peth sy'n difwyno'r cwbl. Ymhellach, gedwih i farnwr, neu ynad, neu llywodraethwr fod wedi ei gynysgaeddu a champau nodedig o gallineb, synwyroldeb, cymmedrolder, haelioni, a chyfarwyddyd in y gyfraith: Etto os bid efe in ŵr digllon, in cymmeryd gwobrau: Oh mor flin a fydd hyn gan y bobl: Canys hwy â ddywedant: Gŵr odiaeth yw mewn gwirionedd, and y mae un peth ynddo in difwyno'r cwbl: gŵr digllon a chyffrous dross ben yw: y mae mor ddigllon ar gyccynen: efe â ffromma in aruthr am ben y blewyn: efe â gyffry, ac a srocha os edrychir arno. Ac heb law hyn, aruthr mor anghyfiawn ydyw: efe â gymmer wobr in anrhesymol: odiaeth ganddo gael iro ei law: fe â wna'r peth a fynnoch am werth. ⟨p. 236⟩Etto ymhellach o bid Pregethwr â chanddo rôdd ragorol, y Cyffredin bobl â ddywed am dano: Oh gŵr p••ffaith yw in wir▪ odiae•h o ddŷ•c, Scrythyr'wr •rwyadl, gŵr nodedig mewn pulpit: and e•to er hyn ei gŷ• y mae arno remp in difwyno'r cwbl, y mae in faich anguriol: y mae efe cyn falched a Luwciffer. In sicrr y mae ganddo d•oniau rhagorol: and mi â attebaf i chwi y gŵyr efe hynny in ddigon dâ. Canys y mae ganddo ymddygiad uchel, ac a edrych in flwng, ac in scoewan ar bawb eraill: o mae in chŵdd hid yr ên o falchder: in tybied o honaw ei hûn in well nag o nêb. Mal hyn ni â welwn pa wed y mae y gwybed meirwon in difwyno'r cwbl: a pha fodd y mae rhyw un pechod in peri gogan i ddŷn, â fyddei, oni bay hynny, in rhagori.