A20213:724
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Antil. Gwn yr awr'hon may o ddrŵg ewyllys yr ydych in llefaru: Canys ni thybiasoch erioed in dda o honof.
Antil. Gwn yr awr'hon mai o ddrŵg ewyllys yr ydych yn llefaru: Canys ni thybiasoch erioed yn dda o honof.
Theol. Mi â ewyllysiwn fod i mi achos i dybied o honoch in gystal ac y dymunwn; a chael o honof welled y cyfryw waith ysprydol wedi ei weithio ynoch, ac a ynnillei fynghariad i, am bodlonrhwydd tu ag attoch. ⟨p. 325⟩Ac am ddrwg ewyllys, fe â ŵyr Duw nad oes gennifi ddim tu ag attoch: Ewyllysio yr wyf eich edifeirwch, a'ch jechydwriaeth, a hynny am holl gallon. Ac mi â dybiwn fy mod in ddedwydd, pe gallwn achub eich enaid, je â cholled fy inraich dehau fy hûn.
Theol. Mi â ewyllysiwn fod i mi achos i dybied o honoch yn gystal ac y dymunwn; a chael o honof weled y cyfryw waith ysprydol wedi ei weithio ynoch, ac a ynnillei fynghariad i, am bodlonrhwydd tu ag attoch. ⟨p. 325⟩Ac am ddrwg ewyllys, fe â ŵyr Duw nad oes gennifi ddim tu ag attoch: Ewyllysio yr wyf eich edifeirwch, a'ch iechydwriaeth, a hynny am holl galon. Ac mi â dybiwn fy mod yn ddedwydd, pe gallwn achub eich enaid, ie â cholled fy inraich dehau fy hûn.
Antil. Gobeithio y gallaf edifarhau; canys fe ddywaid yr Scrythur, pa brŷd bynnag yr edifarhao pechadur, y maddeu Duw iddo: Am hynny os gallaf gael hamdden, a grâs ac amser i gymmeryd edifeirwch cyn sy marw▪ ac i ofyn i Dduw faddevant, ac i ddywedyd fyngweddiau, ac i lefain ar Dduw am drugaredd, gobeithio yr wyf y bid digon da fy helynt.