A20213:922
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Phila. Da jawn yw hyn, a chryno. Chwi â soniasoch or blaen am ray o'r pyngciau hyn, Eithr yr wyfi in cwyllyfio cael clywed peth y chwaneg am y ddâu olaf, y rhai ni chrybwyllwyd etto am danynt.
Phila. Da iawn yw hyn, a chryno. Chwi â soniasoch or blaen am rai o'r pyngciau hyn, Eithr yr wyfi yn cwyllyfio cael clywed peth y chwaneg am y ddâu olaf, y rhai ni chrybwyllwyd etto am danynt.
Theol. Gan eich bod in ewyllysio, mi â adroddaf i chwi ar fir, yr hyn â dderbyniais ⟨p. 411⟩gan yr Arglwydd. In gyntaf, am did y farn yr wyf in cael in llyfr Duw, y bid y did hwnnw, in ofnadwy, ar in ddychrynnedig: Canys mâb y dŷn â ddaw in wybrennau'r nef, 1gŷd â nerth, a gogoniant mawr. A Saint Petr â ddywed. Did yr Arglwydd â ddaw megis lleidr y nos. In yr hwn y nefoedd a ânt heibio mewn trŵst, ar defnyddiau in wîr o wrês â doddant, a'r ddaiar, 2a'r gwaith â fyddo ynddi a loscir. Yr Apostol â ddywed i ni, y bid yr hollfyd in dân-llwyth o dân goleu ar ddyfodiad Christ, ac yr yssir in ulw, a'c in lludw yr hôll gestill, tyrau, adeilad gwychion, aur, arian melfed, sidan, a hôll ddisclair brydferthwch, gogoniant, a thegwch y bid hwn. Oblegit dywedyd in eglur y mae: Y nefoedd ar ddaiar sy yr awr'hon trwy'r un gair â rod wyd i gadw i dân erbyn did y farn, a destryw yr anwir ddynion. Ym mhellach profi y mae in gadarn may megis ac y difethwyd y bŷd un-waith trwy ddwfr: felly ail-waith in ei ddiwedd y destrywir ef â thân. Yr Apostol Paul â destiolaetha yr un peth: Canys efe â ddywed, Y daw yr Arglwydd or nefoedd gyd a'i Angelion nerthol in dân fflamllyd.3 ⟨p. 412⟩Ac mewn man arall y mae efe in dangos ddychrynnedigaeth ei ddyfodiad ef ir farn gan ddywedyd: y daw efe gyd â bloedd, a lief yr Archangel,