A20213:966
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din…Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn…
Llwybr hyfford[d in cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd in yr hwn y dichon din ... / wedi ei osod allan ar dull ... Dent ...Llwybr hyfford[d yn cyfarwyddo] yr anghyfarw[ydd i'r] nefoedd yn yr hvvn y dichon dyn ... / vvedi ei osod allan ar ddull ... Dent ...
Printiedig in Llundain : Gan Nicholas Okes dross Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630Printiedig yn Llundain : Gan Nicholas Okes dros Georg Lathvm ac a geir ar werth ym monwent St. Paul tan arwydd Pen-Escob, 1630
Title page typeset from the transcription.
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Asune. Yr wyf in cael cyssur a diddanwch mawr oddi-wrth eich geiriau chwi. Eich gwaith chwi in pregethu'r Efengyl, ac in yspysu helaeth drugaredd Dduw ing Hrist, ai addewidion ef sydd in fy adfywio i in rhagorol, ac megis in rhoddi bywyd o newydd ynof: megis gwîn, a siwgwr ydynt i'm henaid, a melusach na'r mêl, a'r na'r dil mêl. Megis meddiginiaeth ydynt im henaid clwyfus, ac megis ennaint i'm doluriau ysprydol. In awr yr wyf in gweled pa drueni sy mewn din, a pha drugaredd sydd in Nuw. ⟨p. 459⟩Ac mi â adwaen wrth brawf gresynol, lle na chlywir trueni, nad oes yno gyfrif am drugaredd. Oblegit i Dduw yr wyf in diolch am dano, in awr yr wyf in dechreu cyrhaeddyd peth crediniaeth, fod addewidion Duw in perthyn i mi, fod fy mhechodau wedi eu maddeu, a'm bod i in un or rhai a fyddant cadwedig.
Asune. Yr wyf yn cael cyssur a diddanwch mawr oddi-wrth eich geiriau chwi. Eich gwaith chwi yn pregethu'r Efengyl, ac yn yspysu helaeth drugaredd Dduw yng Hrist, ai addewidion ef sydd yn fy adfywio i yn rhagorol, ac megis yn rhoddi bywyd o newydd ynof: megis gwîn, a siwgwr ydynt i'm henaid, a melusach na'r mêl, a'r na'r dil mêl. Megis meddiginiaeth ydynt im henaid clwyfus, ac megis ennaint i'm doluriau ysprydol. Yn awr yr wyf yn gweled pa drueni sy mewn dyn, a pha drugaredd sydd yn Nuw. ⟨p. 459⟩Ac mi â adwaen wrth brawf gresynol, lle na chlywir trueni, nad oes yno gyfrif am drugaredd. Oblegit i Dduw yr wyf yn diolch am dano, yn awr yr wyf yn dechreu cyrhaeddyd peth crediniaeth, fod addewidion Duw yn perthyn i mi, fod fy mhechodau wedi eu maddeu, a'm bod i yn vn or rhai a fyddant cadwedig.
Theol. Y mae in dda gan fy-nghalon ddarfod i Dduw in ôl golud ei drugaredd waithio ynoch chwi y daioni hwn: yr wyf o eigion fynghalon in rhoddi iddo ef y moliant ar gogoniant am dano. Dedwydd ydych eich geni i weithio o Dduw ynoch waith mor raslawn. Ei ffafor ragorol ef ydyw hyn, a'i drugaredd enwedigol tuag attoch: Oblegit gwir edifarhau, a chredu yw unig rhydd-did, a brenhinol ragor'fraint plant Duw. Attolygaf i Dduw gan hynny an-chwanegu eich ffydd, ach llenwi o bôb cyflawnder llawenydd, a thangneddyf drwy gredu, fell y galloch amlhau mewn gobaith drwy allu yr Yspryd Glân.