A30210:117
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Efangylwr. Ina dywedodd Efangylwr wrtho, i mae dy droseddiad di in fawr jawn; Canŷs di a wnaethost ddau ddrŵg; Di a adewaist y ford ddâ, ac a aethost i dramwŷ rhŷd llwŷbrau gwahar▪ ddedig: Er hynnŷ di a gei dy dderbŷn gan y Gŵr sŷdd wrth y porth; Oblegit mae ef in ewÿllyssio in ddâ i ddynnion: In enwedig ebŷr ef gwilia rhag troy oddiar y ford drachefn, rhag dy nagcau o'r ford pan gynnevo ei lid ef and ychydig. (Psalm 2.12.)
Efangylwr. Yna dywedodd Efangylwr wrtho, i mae dy droseddiad di yn fawr iawn; Canŷs di a wnaethost ddau ddrŵg; Di a adewaist y ffordd ddâ, ac a aethost i dramwŷ rhŷd llwŷbrau gwahar▪ ddedig: Er hynnŷ di a gei dy dderbŷn gan y Gŵr sŷdd wrth y porth; Oblegit mae ef yn ewÿllyssio yn ddâ i ddynnion: Yn enwedig ebŷr ef gwilia rhag troi oddiar y ffordd drachefn, rhag dy nagcau o'r ffordd pan gynneuo ei lid ef ond ychydig. (Psalm 2.12.)
Ina yr ymrôdd Cristion i ddychwelŷd; Ar Efangylwr (wedi iddo ei gusanu ef) a wênôdd arno, ac a ddywedodd Duw in rhwŷdd wrtho. Fellu efe a aeth ymlaen ar frŷs, heb yngenŷd gair wrth un-dŷn ar y ford: Ac os gofynnai nêb ddim iddo, ni chaent atteb in y bŷd oddiwrtho. Yr oedd e'n cerdded megis un in troedio o hŷd ar Dîr gwaharddedig; Ac ni allay ef ei dybied ei hun in Ddiogel mewn un môdd, hŷd oni ddaeth ef drachefn ir ford a adawsai ef trwŷ gyngor Meistr Bydol Ddoethŷn; Ac fellu mewn ⟨p. 23⟩ennŷd o amser, fe a ddaeth o'r diwedd hŷd at y porth, lle'r yscrifenwŷd y geiriau hŷn uwch ei ben Curwch ac fe agorir i chwi, (Matthew 7.7, 8.) A chwedi curo mwŷ nag unwaith neu ddwŷ, fe a ddywedodd, Dymmunwn egor y drŵs purr, I mi bechadur truan. Sŷ'n dwŷn gofud mawr, a phwŷs, Nes cael Paradwŷs Wiwlan. Os Egorŷd i mi a wneir, I rwŷfi a'r fedeir canu, Clod, Gogoniant, a mawl bŷth, I ti'r Gwehelŷth Jesus.