A30210:143
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. And ebŷr Cristion, a oes yno draws ffŷrdd, trwŷ y rhai a geill Dŷn dieithr golly ei ford?
CRISTION. Ond ebŷr Cristion, a oes yno draws ffŷrdd, trwŷ y rhai a geill Dŷn dieithr golli ei ffordd?
Ewŷllysiwr-Dâ. Oes, i mae amrŷw o ffŷrdd in dyfod ith ford di; And i maent hwŷ ôll in geimion ac in llydain: Ac wrth hŷn a jelly ddynabod yr jawn ford oddiwrth y cross▪ffŷrdd; I mae hi in unig in union ac in gûl, a'r lleill in geimion ac in llydain. (Matthew 7.13; 14.)
Ewŷllysiwr-Dâ. Oes, i mae amrŷw o ffŷrdd yn dyfod ith ffordd di; Ond i maent hwŷ ôll yn geimion ac yn llydain: Ac wrth hŷn a gelli ddynabod yr iawn ffordd oddiwrth y croes▪ffŷrdd; I mae hi yn unig yn union ac yn gûl, a'r lleill yn geimion ac yn llydain. (Matthew 7.13; 14.)
Ina mi a glywn Gristion in gofŷn i Ewŷllysiwr-Dâ, a allay ef ei ddadlwŷtho o'r llwŷth oedd ar ei gefn; Canŷs hŷd in hŷn ni chawsai ef wared o hono, ac nis gallai ef mewn môdd in y Bŷd fwrw ei fauch i lawr heb help.
Yna mi a glywn Gristion yn gofŷn i Ewŷllysiwr-Dâ, a allai ef ei ddadlwŷtho o'r llwŷth oedd ar ei gefn; Canŷs hŷd yn hŷn ni chawsai ef wared o hono, ac nis gallai ef mewn môdd yn y Bŷd fwrw ei fauch i lawr heb help.