A30210:295
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Myfi a roddais iddo ef fy nghrêd, ac a dyngais a byddwn i ufudd iddo; A pha fôdd a gallafi dynnu'n ôl oddiwrth hŷn, heb gael fy nghrogi fell Bradwr?
CRISTION. Myfi a roddais iddo ef fy nghrêd, ac a dyngais a byddwn i ufudd iddo; A pha fôdd a gallafi dynnu'n ôl oddiwrth hŷn, heb gael fy nghrogi fel Bradwr?
Apol-lion. Tydi a wnaethost yr un peth i minneu, Ac etto nis cofiaf fi dy waith di in gadel fy ngwasanaeth os dychweli di yr awron drachesn, a mined in ôl.
Apol-lyon. Tydi a wnaethost yr un peth i minneu, Ac etto nis cofiaf fi dy waith di yn gadel fy ngwasanaeth os dychweli di yr awron drachesn, a myned yn ôl.
CRISTION. Yr hŷn a addewais i ti oedd in fy jevengctid, Ac heblaw hynnŷ myfi a wn a gall y Tywŷsog (dan faner yr hwn yr wi yr awron in rhyfela) fy rhŷddhau i oddiwrth fy rhwŷmedigaethan, je a maddeu i mi hefŷd fy 'ngwaith in ⟨p. 65⟩ymrwŷmo i fôd in wâs i ti, ac o ddywedŷd y gwîr O Apol-lion, gwell gennifi ei wasanaeth, ei gyflog, ei weision, ei Lywodraeth, ei Gyfeillach a'i Wlâd ef na'r eiddoti; Ac am hynnŷ na themptia monofi mwŷ i ddychwelŷd i'th wasanaeth di; Canŷs ei wâs ef wŷfi ac mi a'i canlynaf ef.
CRISTION. Yr hŷn a addewais i ti oedd yn fy ieuengctid, Ac heblaw hynnŷ myfi a wn a gall y Tywŷsog (dan faner yr hwn yr wi yr awron yn rhyfela) fy rhŷddhau i oddiwrth fy rhwŷmedigaethan, ie a maddeu i mi hefŷd fy 'ngwaith yn ⟨p. 65⟩ymrwŷmo i fôd yn wâs i ti, ac o ddywedŷd y gwîr O Apol-lyon, gwell gennifi ei wasanaeth, ei gyflog, ei weision, ei Lywodraeth, ei Gyfeillach a'i Wlâd ef na'r eiddoti; Ac am hynnŷ na themptia monofi mwŷ i ddychwelŷd i'th wasanaeth di; Canŷs ei wâs ef wŷfi ac mi a'i canlynaf ef.