A30210:299
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Ei bwrpas ef trwŷ beidio in bresennol, a gwaredu rhai o'i bobl o'th garcharau a'th gadwŷnau di, ydŷw er mwŷn cael prawf a ydŷnt hwŷ in ei garu ef, ac a lynant hwŷ wrtho ef hŷd y diwedd (Datcuddiad 2.10.) Ac am y drŵg ddihenŷdd yr wŷti in dywedŷd fôd rhai o honŷnt in dyfod iddo, i mae hynnŷ in dra gogoneddus in eu golwg hwŷnt; Canŷs nid ydŷnt hwŷ in disgwŷl nemmawr am warediad presennol; Oblegit eu bôd in aros am eu gogoniant; Yr hwn a gânt hwŷ in ddiammeu ei fwŷnhau, pan ddelo eu Tywŷsog in ei ogoniant gyda ei Angylion gogoneddus ⟨p. 66⟩(Rhufeiniaid 8.18. Colosiaid 3.4.)
CRISTION. Ei bwrpas ef trwŷ beidio yn bresennol, a gwaredu rhai o'i bobl o'th garcharau a'th gadwŷnau di, ydŷw er mwŷn cael prawf a ydŷnt hwŷ yn ei garu ef, ac a lynant hwŷ wrtho ef hŷd y diwedd (Datcuddiad 2.10.) Ac am y drŵg ddihenŷdd yr wŷti yn dywedŷd fôd rhai o honŷnt yn dyfod iddo, i mae hynnŷ yn dra gogoneddus yn eu golwg hwŷnt; Canŷs nid ydŷnt hwŷ yn disgwŷl nemmawr am warediad presennol; Oblegit eu bôd yn aros am eu gogoniant; Yr hwn a gânt hwŷ yn ddiammeu ei fwŷnhau, pan ddelo eu Tywŷsog yn ei ogoniant gyda ei Angylion gogoneddus ⟨p. 66⟩(Rhufeiniaid 8.18. Colosiaid 3.4.)
Aol-lion. Dydi a fuast anffyddlon eusus in ei wasanaeth ef, a pha fôdd yr wŷti 'n meddwl cael cyflog gantho ef?
Aol-lyon. Dydi a fuast anffyddlon eusus yn ei wasanaeth ef, a pha fôdd yr wŷti 'n meddwl cael cyflog gantho ef?
CRISTION. Ymha beth (o Apol-lion) a bum i in anffyddlon iddo ef?