A30210:332
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ina mi a welwn Gristion in mined rhŷd ei ⟨p. 76⟩ford; Etto wrth ganfod yr hên ŵr oedd in eiffedd ing-enau'r ogof, Ni wŷddai ef pa beth i dybied, in enwedig am ei fôd in llefaru wrtho (er na alleu ddyfod ar ei ôl ef) gan ddywedŷd, Ni pheidiwch chwi bŷth, ac ni wellewch, hŷd oni loscir lawyer mwŷ o honoch; And fe a dawodd a sôn, ac a edrychodd arno ef ag wŷnebprŷd gwrol; Ac fellu fe a aeth heibio, ac ni chafodd ddim niwed oddiwrtho; Ina a canodd Cristion fell hŷn, Ni allaf ddywedŷd lay o'm genau, Nad crŷn Fŷd o ryfeddodau, Oedd fy achub a'm gwaredu, O'r gofudiau a'm cyfarfu. Tra fum in y Dyffrŷn ymma, Dyfn dywŷllwch o'r perycla, Diawlaid, Uffern, pechod gwrthŷn, A'm cwmpaseu hôb mynudŷn. Pyllau, Rhwŷdau, a chrog-prennau, Oedd in lawn o▪bôb-tu 'm llwŷbrau; Y fi druan gwael, fe allasid, Dal a maglu fy' enaid hefŷd. O! Bendigaid bŷth heb derfŷn, A fo'r law a'm cadwodd rhagddŷn: A chan fy môd in fŷw yr awron, Bŷdd ir Jesus wisco'r Goron.
Yna mi a welwn Gristion yn myned rhŷd ei ⟨p. 76⟩ffordd; Etto wrth ganfod yr hên ŵr oedd yn eiffedd yng-enau'r ogof, Ni wŷddai ef pa beth i dybied, yn enwedig am ei fôd yn llefaru wrtho (er na alleu ddyfod ar ei ôl ef) gan ddywedŷd, Ni pheidiwch chwi bŷth, ac ni wellewch, hŷd oni loscir llawer mwŷ o honoch; Ond fe a dawodd a sôn, ac a edrychodd arno ef ag wŷnebprŷd gwrol; Ac fellu fe a aeth heibio, ac ni chafodd ddim niwed oddiwrtho; Yna a canodd Cristion fel hŷn, Ni allaf ddywedŷd llai o'm genau, Nad crŷn Fŷd o ryfeddodau, Oedd fy achub a'm gwaredu, O'r gofudiau a'm cyfarfu. Tra fum yn y Dyffrŷn ymma, Dyfn dywŷllwch o'r perycla, Diawlaid, Uffern, pechod gwrthŷn, A'm cwmpaseu hôb mynudŷn. Pyllau, Rhwŷdau, a chrog-prennau, Oedd yn llawn o▪bôb-tu 'm llwŷbrau; Y fi druan gwael, fe allasid, Dal a maglu fy' enaid hefŷd. O! Bendigaid bŷth heb derfŷn, A fo'r llaw a'm cadwodd rhagddŷn: A chan fy môd yn fŷw yr awron, Bŷdd ir Iesu wisco'r Goron.