A30210:345
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. A fu dim ymddiddan rhyngochi ac ef cŷn eich dyfod oddicartref?
Ffyddlon. Myfi a gyfarfum ag ef unwaith in yr heol, and efe a giliodd ymaíth i ystlus arall yr heol, fell un a chywilŷdd arno am yr hŷn a wnaethai; Fellu nid yngenais i air wrtho.
Ffyddlon. Myfi a gyfarfum ag ef unwaith yn yr heol, ond efe a giliodd ymaíth i ystlus arall yr heol, fel un a chywilŷdd arno am yr hŷn a wnaethai; Fellu nid yngenais i air wrtho.
CRISTION. Pan ddechrevais i fy nhaith, yr oeddwn in gobeithio 'n ddâ am y gŵr hwnnw; And yr awron yr wi 'n ofni a derfŷdd amdano ef in nistrŷw y Ddinas; Canŷs digwŷddodd iddo ef in ôl y wir Ddihareb, Y Ci a ymchwelodd at ei chwdiad ei hun, a'r Hŵch wedi ei golchi iw hymdreiglfa in y dom (2 Petr 2.22.)
CRISTION. Pan ddechreuais i fy nhaith, yr oeddwn yn gobeithio 'n ddâ am y gŵr hwnnw; Ond yr awron yr wi 'n ofni a derfŷdd amdano ef yn nistrŷw y Ddinas; Canŷs digwŷddodd iddo ef yn ôl y wir Ddihareb, Y Ci a ymchwelodd at ei chwdiad ei hun, a'r Hŵch wedi ei golchi iw hymdreiglfa yn y dom (2 Petr 2.22.)