A30210:335
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Fy anwŷl Frawd Ffyddlon, i maen 'n ddâ gennif i mi 'ch goddiweddŷd chwi, ac fôd Duw wedi cŷdtymheru ein Hysprŷdoliaeth ni in y fâth fôdd, fell a gallom rodio ynghŷd megis Cymdeithion in y llwŷbŷr ymma yr hwn sŷdd mor hyfrŷd.
CRISTION. Fy anwŷl Frawd Ffyddlon, i maen 'n ddâ gennif i mi 'ch goddiweddŷd chwi, ac fôd Duw wedi cŷdtymheru ein Hysprŷdoliaeth ni yn y fâth fôdd, fel a gallom rodio ynghŷd megis Cymdeithion yn y llwŷbŷr ymma yr hwn sŷdd mor hyfrŷd.
Ffyddlon. Gyfaill anwŷl, myfi a obeithiais gael eich cymdeithas chwi o'n trêf ni o hŷd, And chychwi a gawsoch y blaen arnafi; Ac am honnŷ fe orfu i mi ddyfod hŷdymma fy hunan.
Ffyddlon. Gyfaill anwŷl, myfi a obeithiais gael eich cymdeithas chwi o'n trêf ni o hŷd, Ond chychwi a gawsoch y blaen arnafi; Ac am honnŷ fe orfu i mi ddyfod hŷdymma fy hunan.
CRISTION. Pa hŷd yr arosasoch chwi in Ninas Distrŷw, cŷn i chwi ddyfod allan ar fy ôl i ar eich Pererindod.
CRISTION. Pa hŷd yr arosasoch chwi yn Ninas Distrŷw, cŷn i chwi ddyfod allan ar fy ôl i ar eich Pererindod.