A30210:358
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ffyddlon. Wedi i mi ddyfodd i odreu y Brŷn a elwid Anhawstra, myfi a gyfarfum a Gŵr oedrannus lawn, yr hwn a ofynnodd i mi pwŷ oeddwn i, ac i bale yr oeddwn in mined? A minneu a'i hattebais ef, may Pererin oeddwn in mined tua 'r Ddinas Nefol: Ina ebŷr yr hên ŵr yr wŷti in edrŷch fell Dŷn gonest; A fyddi di fodlon i aros gyda mi; Os gwnei di fellu mi a roddaf i ti gyffog; Ina mi a ofynnais iddo ei enw, a pha le yr oedd ef in trigo? Yntef a'm hattebodd i, may ei enw ef oedd Adda y cyntaf, a'i fôd ef in aros in y Drêf a elwir Twŷll (Ephesiaid 4.22. Jeremi 17.9.) Wedi hynnŷ mi ofynnais iddo pa beth oedd ei waith ef, a pha gyflog a roddai ef? Yntef a'm hattebodd i, may hêla am olud, ac am feluswedd buchedd, ac am bôb mâth o bethau hyfrŷd a ddichon gyflawni trachwantau 'r cnawd oedd ei ⟨p. 81⟩waith ef, ac in lle cyflog a cawn i fôd in etifedd iddo in y diwedd; Mi a ofynnais iddo ymhellach pa fâth Dŷ yr oedd ef in ei gadw, a pha weision eraill oedd gantho ef? Ac fe a'm hattebodd i fôd in ei Dŷ ef hôll ymheuthundod y Bŷd hwn, ac may y rhai a genhedlasai ef ei hun oedd ei weision ef; Ina mi a ofynnais pa fawl un o blant oedd gantho? A dywedodd yntef wrthŷf, nad oedd gantho and tair o ferched, self Chwant y cnawd, Chwant y llygaid, a Balchder y bywŷd, ac a cawn i eu priodi nhwŷ ill tair os mynnwn (1 Joan 2.16.) Ina mi a ofynnais iddo, pa hŷd a mynnai ef i mi fŷw gydag ef? Ac fe a'm hattebodd i cyhŷd o amser ac a byddai ef bŷw ei hun.
Ffyddlon. Wedi i mi ddyfodd i odreu y Brŷn a elwid Anhawstra, myfi a gyfarfum a Gŵr oedrannus lawn, yr hwn a ofynnodd i mi pwŷ oeddwn i, ac i ba le yr oeddwn yn myned? A minneu a'i hattebais ef, mai Pererin oeddwn yn myned tua 'r Ddinas Nefol: Yna ebŷr yr hên ŵr yr wŷti yn edrŷch fel Dŷn gonest; A fyddi di fodlon i aros gyda mi; Os gwnei di fellu mi a roddaf i ti gyffog; Yna mi a ofynnais iddo ei enw, a pha le yr oedd ef yn trigo? Yntef a'm hattebodd i, mai ei enw ef oedd Adda y cyntaf, a'i fôd ef yn aros yn y Drêf a elwir Twŷll (Ephesiaid 4.22. Jeremi 17.9.) Wedi hynnŷ mi ofynnais iddo pa beth oedd ei waith ef, a pha gyflog a roddai ef? Yntef a'm hattebodd i, mai hêla am olud, ac am feluswedd buchedd, ac am bôb mâth o bethau hyfrŷd a ddichon gyflawni trachwantau 'r cnawd oedd ei ⟨p. 81⟩waith ef, ac yn lle cyflog a cawn i fôd yn etifedd iddo yn y diwedd; Mi a ofynnais iddo ymhellach pa fâth Dŷ yr oedd ef yn ei gadw, a pha weision eraill oedd gantho ef? Ac fe a'm hattebodd i fôd yn ei Dŷ ef hôll ymheuthundod y Bŷd hwn, ac mai y rhai a genhedlasai ef ei hun oedd ei weision ef; Yna mi a ofynnais pa fawl un o blant oedd gantho? A dywedodd yntef wrthŷf, nad oedd gantho ond tair o ferched, sef Chwant y cnawd, Chwant y llygaid, a Balchder y bywŷd, ac a cawn i eu priodi nhwŷ ill tair os mynnwn (1 Joan 2.16.) Yna mi a ofynnais iddo, pa hŷd a mynnai ef i mi fŷw gydag ef? Ac fe a'm hattebodd i cyhŷd o amser ac a byddai ef bŷw ei hun.