A30210:375
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y profiadau sŷ 'n cyfarfod, Pawb sŷ'n teithio mewn ufudd-dod, Ir wîr alwad Nefol hyfrŷd, ŷnt in aml, ac in enbŷd. Wedi eu trefnu, a'u gweddeiddio, I'n drŵg nature sŷdd in effro: Delant a'm ein pennau beunÿdd, Delant, delant fŷth o newýdd. Fell y gallom in aflawen, Nail a'i 'nawr, a'i rhŷw brŷd amgen, Trwŷddŷnt gael ein dal, a'n gorfod, Ac o'u plegid gael ein gwrthod. O gan hynnŷ Nac anghofied, Pererinod fôd in gwilied, I wrthnebu twŷll drŵg Ddynnion, Cŷn wroled ag y gallon.
Y profiadau sŷ 'n cyfarfod, Pawb sŷ'n teithio mewn ufudd-dod, Ir wîr alwad Nefol hyfrŷd, ŷnt yn aml, ac yn enbŷd. Wedi eu trefnu, a'u gweddeiddio, I'n drŵg nattur sŷdd yn effro: Delant a'm ein pennau beunÿdd, Delant, delant fŷth o newýdd. Fel y gallom yn aflawen, Naill a'i 'nawr, a'i rhŷw brŷd amgen, Trwŷddŷnt gael ein dal, a'n gorfod, Ac o'u plegid gael ein gwrthod. O gan hynnŷ Nac anghofied, Pererinod fôd yn gwilied, I wrthnebu twŷll drŵg Ddynnion, Cŷn wroled ag y gallon.
CRISTION. I mae 'n ddiammeu a dylem ni alw ar yr hwn a fynnei i ni fôd in wrol ar y ddaiar gyda 'r gwirionedd, am gymmorth i wrthwŷnebu y cyfrŷw Ddynnion digwilŷdd, ar a fynnent i ni gywilŷddio i ymwrthod a'r hŷn sŷdd ddâ; And a ddigwŷddodd i chwi ddim drŵg arall in y Dyffrŷn hwnnw?
CRISTION. I mae 'n ddiammeu a dylem ni alw ar yr hwn a fynnei i ni fôd yn wrol ar y ddaiar gyda 'r gwirionedd, am gymmorth i wrthwŷnebu y cyfrŷw Ddynnion digwilŷdd, ar a fynnent i ni gywilŷddio i ymwrthod a'r hŷn sŷdd ddâ; Ond a ddigwŷddodd i chwi ddim drŵg arall yn y Dyffrŷn hwnnw?
Ffyddlon. Na do, canŷs yr oedd yr Haul in ll wŷrchu arnaf in yr hôll ran arall o'r ford trwŷ 'r Dyffrŷn hwnnw, ac hefŷd trwŷ Ddyffrŷn cyscod Angeu.
Ffyddlon. Na ddo, canŷs yr oedd yr Haul yn ll wŷrchu arnaf yn yr hôll ran arall o'r ffordd trwŷ 'r Dyffrŷn hwnnw, ac hefŷd trwŷ Ddyffrŷn cyscod Angeu.