A30210:403
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ffyddlon. Ow! Fe debygid ei fôd ef (o ran crefŷdd) in ddŷn gwŷch.
Ffyddlon. Ow! Fe debygid ei fôd ef (o ran crefŷdd) yn ddŷn gwŷch.
CRISTION. Hynnŷ ŷw gan y rhai sŷ heb ei gwbl ddynabod ef; Canŷs oddi-cartref a mae ef in oreu; Gerllaw gartref mae fe 'n ddigon ffiaidd; A lle'r ŷch chwi in dywedŷd may Dŷn gwŷch ŷw ef, i mae hynnŷ in dwŷn ar gôf i mi, yr hŷn a greffais i arno yngwaith Paentiwr; I mae'r Lluniau y mae ef in eu Paentio in ymddangos in oreu o bell, and in amhrydferth in agos.
CRISTION. Hynnŷ ŷw gan y rhai sŷ heb ei gwbl ddynabod ef; Canŷs oddi-cartref a mae ef yn oreu; Gerllaw gartref mae fe 'n ddigon ffiaidd; A lle'r ŷch chwi yn dywedŷd mai Dŷn gwŷch ŷw ef, i mae hynnŷ yn dwŷn ar gôf i mi, yr hŷn a greffais i arno yngwaith Paentiwr; I mae'r Lluniau y mae ef yn eu Paentio yn ymddangos yn oreu o bell, ond yn amhrydferth yn agos.
Ffyddlon. Yr wi 'n barod i dybied nad ŷch chwi and cellweir, am i chwi wenu.
Ffyddlon. Yr wi 'n barod i dybied nad ŷch chwi ond cellweir, am i chwi wenu.