A30210:505
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ina Cristion a drôdd ychydig o'r neilltu at ei gydymaith Gobeithiol, ac a ddywedodd wrtho, rwi'n tybied may Meistir Neilltuol-fwriad o Drêf Tegymadrodd ŷw'r dŷn hwn; Ac os efe ydŷw'r Gŵr, i mae gennŷm in ein cwmpeini cŷn benned cnâf a'r pennaf in y wlâd hon; Ina ebŷr Gobeithiol gofynnwch iddo beth ŷw ei enw ef; In siwr mi debygwn nas dylai ef gywilyddio o ddatcuddio ⟨p. 121⟩ei enw; Fellu Cristion a aeth atto drachefn; ac a ddywedodd, Sir, yr ydŷch chwi'n siarad megis un a fai'n tybied ei fôd in deal rhŷw bethau in well na llaweroedd eraill: Ac onid wŷf in eich camgymmerŷd▪ mi debygwn fy môd in eich brith ddynabod chwi; And Meistir Neilltuol-fwriad ydŷw'ch henw chwi? Ac and ydŷch in bŷw in nhrêf Teg-ymadrodd?
Yna Cristion a drôdd ychydig o'r neilltu at ei gydymaith Gobeithiol, ac a ddywedodd wrtho, rwi'n tybied mai Meistir Neilltuol-fwriad o Drêf Tegymadrodd ŷw'r dŷn hwn; Ac os efe ydŷw'r Gŵr, i mae gennŷm yn ein cwmpeini cŷn benned cnâf a'r pennaf yn y wlâd hon; Yna ebŷr Gobeithiol gofynnwch iddo beth ŷw ei enw ef; Yn siwr mi debygwn nas dylai ef gywilyddio o ddatcuddio ⟨p. 121⟩ei enw; Fellu Cristion a aeth atto drachefn; ac a ddywedodd, Syr, yr ydŷch chwi'n siarad megis un a fai'n tybied ei fôd yn deall rhŷw bethau yn well na llaweroedd eraill: Ac onid wŷf yn eich camgymmerŷd▪ mi debygwn fy môd yn eich brith ddynabod chwi; Ond Meistir Neilltuol-fwriad ydŷw'ch henw chwi? Ac ond ydŷch yn bŷw yn nhrêf Teg-ymadrodd?
Neilltuol fwriad. Nid Neilltuol fwriad ŷw fy henw i: And gwîr ydŷw fôd rhai o'm caseion in fy llashenwi fellu; Ac mae'n rhaid i mi ymfodloni i ddioddef eu hamharch, megis a dioddefodd gwŷr dâ eraill o'm blaen.
Neilltuol fwriad. Nid Neilltuol fwriad ŷw fy henw i: Ond gwîr ydŷw fôd rhai o'm caseion yn fy llashenwi fellu; Ac mae'n rhaid i mi ymfodloni i ddioddef eu hamharch, megis a dioddefodd gwŷr dâ eraill o'm blaen.