A30210:524
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Chwant yr Arian. Nid rhaid in ddiammeu ⟨p. 125⟩ddywedŷd gair ymhellach ynghŷlch y matter ymma; Canŷs yr hwn nid ŷw'n credu na Scrythur, na rheswm (a chwi a welwch fôd y ddau ar ein plaid ni) nid ŷw hwnnw'n cydnabod moi rid-did, nac in c•isio ei siccrwŷdd ei hun.
Chwant yr Arian. Nid rhaid yn ddiammeu ⟨p. 125⟩ddywedŷd gair ymhellach ynghŷlch y matter ymma; Canŷs yr hwn nid ŷw'n credu na Scrythur, na rheswm (a chwi a welwch fôd y ddau ar ein plaid ni) nid ŷw hwnnw'n cydnabod moi rydd-did, nac yn c•isio ei siccrwŷdd ei hun.
Neilltuol-fwriad. Fy mrodŷr, yr ydŷm ni ôll yr awron (fell a gwelwch) in mined ar Bererindod; Ac o ran difyrru'r amser in well, rhowch gennad i mi i ofŷn i chwi y cwestiwn hwn.
Neilltuol-fwriad. Fy mrodŷr, yr ydŷm ni ôll yr awron (fel a gwelwch) yn myned ar Bererindod; Ac o ran difyrru'r amser yn well, rhowch gennad i mi i ofŷn i chwi y cwestiwn hwn.
Bwriwch fôd Gweinidog neu Grefftwr, mewn cyfle a ford i ennill bendithlon daionus y bywŷd hwn; Etto fell na allo mewn môdd in y Bŷd fôd in gyfrannog o honŷnt, oddigerth iddo ymddangos in dra gwresog, tiwnt i gyffredin arfer y wlâd mewn rhai Pyngciau crefŷdd, y rhai nad oedd ef erloed o'r blaen in eu canlŷn; Onid eill ef ddewis y ford ymma, er mwŷn cael ei fwriad, ac etto fôd in ŵr gonest jawn.
Bwriwch fôd Gweinidog neu Grefftwr, mewn cyfle a ffordd i ennill bendithlon daionus y bywŷd hwn; Etto fel na allo mewn môdd yn y Bŷd fôd yn gyfrannog o honŷnt, oddigerth iddo ymddangos yn dra gwresog, tiwnt i gyffredin arfer y wlâd mewn rhai Pyngciau crefŷdd, y rhai nad oedd ef erloed o'r blaen yn eu canlŷn; Onid eill ef ddewis y ffordd ymma, er mwŷn cael ei fwriad, ac etto fôd yn ŵr gonest iawn.