A30210:539
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRITSION. Pa beth sŷdd in ill yna mor odidawg, ar a allay ein hudo ni i droi oddiar y ford iw welled?
CRITSION. Pa beth sŷdd yn y lle yna mor odidawg, ar a allai ein hudo ni i droi oddiar y ffordd iw weled?
Demas. Dymma Fŵn arian, a rhai in cloddio yntho am Drysor; Os dowch chwi ymma Chwi a ellwch ymgyfoethogi wrth gymmerŷd ychydig o boen.
Demas. Dymma Fŵn arian, a rhai yn cloddio yntho am Drysor; Os dowch chwi ymma Chwi a ellwch ymgyfoethogi wrth gymmerŷd ychydig o boen.
Gobeithiol. Ina ebŷr Gobeithiol own i welled y peth ymma.
Gobeithiol. Yna ebŷr Gobeithiol awn i weled y peth ymma.
CRISTION. Naga fi ddim ebŷr Cristion; Myfi a glywais sôn am ill ymma cŷn hŷn, a pha rifedi a ddifethwŷd ymma; Ac heblaw hŷn, mae'r Trysor accw un fagl i'r rhai sŷ'n ei geisio ef; Canŷs i ma• f in eu rhwŷstro nhwŷ in eu Pererindod; Ina Cristion a alwodd ar Demas, gan ddywedŷd wrtho, onid ŷw'r lle yna in beryglus.