TAITH Y PERERIN: NEU SIWRNEU DIN OR BID HWN I'R BID A DDAW. Dan gyffelybiaeth BREUDDWYD.TAITH Y PERERIN: NEU SIWRNEU DYN OR BYD HWN I'R BYD A DDAW. Dan gyffelybiaeth BREUDDWYD.
pp. 1–206863 passagespart 14 of 22
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In Ail, Y Phariseaid rhagrithiol oeddŷnt hefŷd o'r Grefŷdd ymma, canŷs tan rîth her weddio, eu diben hwŷ oedd i lwŷr fwŷdta tal gwragedd gweddwon, Ac am hynnŷ a bygwthiodd Christ nhw a damnedigaeth mwŷ creulon na damnedigaeth trosseddwŷr eraill (Luc 20.47.)
Yn Ail, Y Phariseaid rhagrithiol oeddŷnt hefŷd o'r Grefŷdd ymma, canŷs tan rîth hir weddio, eu diben hwŷ oedd i lwŷr fwŷdta tal gwragedd gweddwon, Ac am hynnŷ a bygwthiodd Crist nhw a damnedigaeth mwŷ creulon na damnedigaeth trosseddwŷr eraill (Luc 20.47.)
In drydŷdd, Yr oedd Judas y Cythrael hefŷd o'r Grefŷdd ymma; 'Roedd ef in Grefyddol er mwŷn y gôd, Gan obeithio a gallai ef trwŷ hynnŷ feddiannu yr arian oedd in y pwrs; And ese a gollwŷd, ac a swriwŷd ymaith, ac yr oedd ef in wîr fâb i'r golledigaeth.
Yn drydŷdd, Yr oedd Judas y Cythrael hefŷd o'r Grefŷdd ymma; 'Roedd ef yn Grefyddol er mwŷn y gôd, Gan obeithio a gallai ef trwŷ hynnŷ feddiannu yr arian oedd yn y pwrs; Ond ese a gollwŷd, ac a swriwŷd ymaith, ac yr oedd ef yn wîr fâb i'r golledigaeth.
In bedwaredd, Seimon y Swŷnwr oedd hefŷd o'r grefŷdd ymma, Canŷs efe a fynnai gael yr Ysprŷd glân fell a gallai wneuthur elw o hono, a'i farn o eneu Peter oedd in ôl hynnŷ (▪ Actau 8.18. &c.)
Yn bedwaredd, Seimon y Swŷnwr oedd hefŷd o'r grefŷdd ymma, Canŷs efe a fynnai gael yr Ysprŷd glân fel a gallai wneuthur elw o hono, a'i farn o eneu Peter oedd yn ôl hynnŷ (▪ Actau 8.18. &c.)