Yr awron yr oedd gan y Cawr Anobaith wraig, a'i henw hi oedd Anhyder; Ac wedi iddo fined iw welŷ efe a fynegodd iddi hi yr hŷn ôll a wnaethai, self iddo ddal dau Garcharwr, a'u taflu nhw iw Ddaiar-dŷ am iddŷnt drespasu ar ei dîr ef; Ac efe a ofynnodd hefŷd iddi pa beth oedd oreu iddo wneuthur iddŷnt ymhellach; Hitheu a ofynnodd pwŷ oeddent, o bale yr oeddent in dyfod, ac i bale yr oeddŷnt in mined? Ac yntef a fynegodd iddi; Ina hi a'i cynghorodd ef, pan gyfoden ⟨p. 139⟩fe'r boreu eu curo nhwŷ in anrhugarog: Fellu pan gyfododd ef y boreu drannoeth, fe a gymmerodd gwlbren mawr cnycciog o ddraenen ddu, ac a aeth i wared attŷnt i'r daiar dŷ; Ac yno in gyntaf efe a ddechrevodd eu llasenwi nhw, megis pedfasent Gŵn (er na roddasent hwŷ erioed iddo ef air anweddus) ac wedi hynnŷ efe a ruthrodd arnŷnt, ac a'u curodd in y fâth fôdd, fey nas gallent na chŷnnorthwŷo y nail y llall, nac ymdroi ar y llawr; Wedi iddo wneuthur fellu efe a aeth ymaith, ac a'u gadawodd hwŷnt yno i gŷd gwŷno eu gofud, ac i alaru dan eu cystŷdd; Fellu hwŷ a dreuliasant yr hôll ddiwrnod hwnnw mewn ocheneidiau a galarnadau chwerw; Yr ail nôs Anhyder a ymddiddanodd a'i Gŵr in eu cŷlch drachefn; A chan deal eu bôd nhw in fŷw etto, hi a'i hannogodd ef iw cynghori hwŷnt i wneuthur diwedd o honŷnt eu hunain: Fellu pan ddaeth y boreu, efe a aeth attŷnt mewn môdd sarrug megis o'r blaen; A chan wŷbod eu bôd nhw in glwŷfus jawn, gan y cleisiau a roddalel ef iddŷnt o'r blaen, efe a ddywedodd wrthŷnt fell hŷn; Gan nad oes tebŷgoliaeth a dowch chwi bŷth allan o'r lle ymma, goreu peth a wnewch chwi ŷw gwneuthur diwedd o honoch eich hunain in fŷan; Nail a'i a chyllill, Cebystrau, neu a Gwenwŷn; Canŷs pa ham ebŷr ef yr ydŷch chwi in dewis bywŷd, gan welled fod cymaint o flinderau ynglŷn wrtho? And hwŷ a attolygasant arno ef eu gollwng hwŷnt ymaith; A chyda hynnŷ fe a edrychodd arnŷnt a golwg erchill; A chan ruthro arnŷnt, diammeu a basai ef ei hun in gwneuthur diwedd o honŷnt y prŷd hwnnw, oni bae iddo syrthio mewn llewŷg (canŷs yr oedd efe weithieu ar dywŷdd tesog in cael ymbell lesmair a cholli grŷm ei law dross amser) Am hynnŷ efe a aeth ⟨p. 140⟩ymaith, ac a'u gadawodd hwŷnt (megis or blaen) i ystyried pa beth a wnaent; Yna'r Carcharorion a ymgynghorasant rhyngthŷnt eu hunain, pan oreu oedd cymmerŷd cyngor y Cawr a'i peidio, ac fell hŷn a dechrevasant ymddiddan.
Yr awron yr oedd gan y Cawr Anobaith wraig, a'i henw hi oedd Anhyder; Ac wedi iddo fyned iw welŷ efe a fynegodd iddi hi yr hŷn ôll a wnaethai, sef iddo ddal dau Garcharwr, a'u taflu nhw iw Ddaiar-dŷ am iddŷnt drespasu ar ei dîr ef; Ac efe a ofynnodd hefŷd iddi pa beth oedd oreu iddo wneuthur iddŷnt ymhellach; Hitheu a ofynnodd pwŷ oeddent, o ba le yr oeddent yn dyfod, ac i ba le yr oeddŷnt yn myned? Ac yntef a fynegodd iddi; Yna hi a'i cynghorodd ef, pan gyfoden ⟨p. 139⟩fe'r boreu eu curo nhwŷ yn anrhugarog: Fellu pan gyfododd ef y boreu drannoeth, fe a gymmerodd gwlbren mawr cnycciog o ddraenen ddu, ac a aeth i wared attŷnt i'r daiar dŷ; Ac yno yn gyntaf efe a ddechreuodd eu llasenwi nhw, megis pedfasent Gŵn (er na roddasent hwŷ erioed iddo ef air anweddus) ac wedi hynnŷ efe a ruthrodd arnŷnt, ac a'u curodd yn y fâth fôdd, fei nas gallent na chŷnnorthwŷo y naill y llall, nac ymdroi ar y llawr; Wedi iddo wneuthur fellu efe a aeth ymaith, ac a'u gadawodd hwŷnt yno i gŷd gwŷno eu gofud, ac i alaru dan eu cystŷdd; Fellu hwŷ a dreuliasant yr hôll ddiwrnod hwnnw mewn ocheneidiau a galarnadau chwerw; Yr ail nôs Anhyder a ymddiddanodd a'i Gŵr yn eu cŷlch drachefn; A chan ddeall eu bôd nhw yn fŷw etto, hi a'i hannogodd ef iw cynghori hwŷnt i wneuthur diwedd o honŷnt eu hunain: Fellu pan ddaeth y boreu, efe a aeth attŷnt mewn môdd sarrug megis o'r blaen; A chan wŷbod eu bôd nhw yn glwŷfus iawn, gan y cleisiau a roddalel ef iddŷnt o'r blaen, efe a ddywedodd wrthŷnt fel hŷn; Gan nad oes tebŷgoliaeth a dowch chwi bŷth allan o'r lle ymma, goreu peth a wnewch chwi ŷw gwneuthur diwedd o honoch eich hunain yn fŷan; Naill a'i a chyllill, Cebystrau, neu a Gwenwŷn; Canŷs pa ham ebŷr ef yr ydŷch chwi yn dewis bywŷd, gan weled fod cymaint o flinderau ynglŷn wrtho? Ond hwŷ a attolygasant arno ef eu gollwng hwŷnt ymaith; A chyda hynnŷ fe a edrychodd arnŷnt a golwg erchill; A chan ruthro arnŷnt, diammeu a basai ef ei hun yn gwneuthur diwedd o honŷnt y prŷd hwnnw, oni bae iddo syrthio mewn llewŷg (canŷs yr oedd efe weithieu ar dywŷdd tesog yn cael ymbell lesmair a cholli grŷm ei law dros amser) Am hynnŷ efe a aeth ⟨p. 140⟩ymaith, ac a'u gadawodd hwŷnt (megis or blaen) i ystyried pa beth a wnaent; Yna'r Carcharorion a ymgynghorasant rhyngthŷnt eu hunain, pa un oreu oedd cymmerŷd cyngor y Cawr a'i peidio, ac fel hŷn a dechreuasant ymddiddan.