A30210:586
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac weal nôs Sadwrn ynghŷlch hanner nôs, hwŷ a ddechrevasant weddio; Ac a barhaesant mewn gweddi agos hŷd y wawr ddŷdd.
Ac wele nôs Sadwrn ynghŷlch hanner nôs, hwŷ a ddechreuasant weddio; Ac a barhaesant mewn gweddi agos hŷd y wawr ddŷdd.
Yrawron ychydig cŷn ei bôd hi'n ddŷdd, Cristion fell un wedi hanner amhwŷllo, a waeddodd ac a ddywedodd fell hŷn; Pa fâth gydafel (ebŷr ef) ydwŷfi, i orwedd in y môdd ymma mewn Daiardŷ drewllŷd, pan allwŷf rodio mewn rhydd-did? I mae gennif agoriad in fy mynwes, a elwir Addewid, yr hwn a mae'n ddlammeu gennif, a ddatcloia bôb clo ynghastell Amheus; Ina ebŷr Gobeithiol dymma newŷdd dâ fy mrawd anwŷl. ⟨p. 144⟩Tŷnn ef allan o'th fynwes, a threiwn ef; Ina Cristion a'i cymmerodd ef allan o'i fynwes, ac a ddechrevodd ar ddrŵs y Daiardŷ; A chynted ac a troes yr agoriad in y clo, f'aeth y bolt in ôl; A'r drŵs a agorodd in fŷan; A Christian a Gobeithiol a ddaethant allan ill dau; Ina daethant at y drŵs nesaf▪i gyntedd y Castle, yr hwn hefŷd a agorodd Cristion a'i egoriad in ddiattreg; Wedi hynnŷ efe a ddaeth at y porth haiarn, canŷs yr oedd in rhaid agor hwnnw hefŷd; And peth anodd jawn oedd agorŷd cloy porth hwnnw; Etto fe a'i hagorwŷd ef ar ygoriad hwnnw: A chwedi hynnŷ hwŷ a wthiafant y porth i egorŷd ddiftawaf ag a medrent, fell a gallent ddiangc ar ffrwst; And y porth wrth ei agor a wnaeth y fâth drŵst, fell a deffrodd y Cawr: Ina fe a geisiodd gyfodi'n ddisymmwth i ddal y Carcharorion; And ei Aelodau a ballasant, Canŷs ei lesmeiriadau a'i cymmerasant ef drachefn, fell na alleu mewn môdd in y Bŷd fined ar eu hôl hwŷnt; Ina hwŷ a aethant ymaith, ac a ddaethant i brif-ford y Brenin: Erbŷn hynnŷ yr oeddent mewn diofalwch, gan eu bôd wedi dyfod allan o feddiannau'r Cawr.
Yrawron ychydig cŷn ei bôd hi'n ddŷdd, Cristion fel un wedi hanner amhwŷllo, a waeddodd ac a ddywedodd fel hŷn; Pa fâth gydafel (ebŷr ef) ydwŷfi, i orwedd yn y môdd ymma mewn Daiardŷ drewllŷd, pan allwŷf rodio mewn rhydd-did? I mae gennif agoriad yn fy mynwes, a elwir Addewid, yr hwn a mae'n ddlammeu gennif, a ddatcloia bôb clo ynghastell Amheus; Yna ebŷr Gobeithiol dymma newŷdd dâ fy mrawd anwŷl.