A30210:644
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gobeithiol. Mi a ddŷmunwn pa basei Grâs Mawr yno er eu mwŷn hwŷ:
CRISTION. Pedfasai ef yno, gallasai gael ei lawn waith; Canŷs rhaid i mi ddywedŷd hŷn wrthŷchi, er bôd Grâs Mawr in dra medrus a'i arfau, iw amddiffŷn ei hunan; Ac er gwneuthur o hono lawyer; Ac er gallu o hono ef etto wneuthur lawyer in erbŷn y gelynnion hŷn, tra cadwo ef hwŷnt wrth flaen ei gleddŷf; Er hynnŷ, os geill Gwan gallon, Gwan grêd, ac Evogrwŷdd ddyfod i mewn atto, a chael gafael arno; Deugain i un a trippiant ei sodlau ef; A phan elo Gŵr i lawr, pa beth a all ef wneuthur.
CRISTION. Pedfasai ef yno, gallasai gael ei lawn waith; Canŷs rhaid i mi ddywedŷd hŷn wrthŷchi, er bôd Grâs Mawr yn dra medrus a'i arfau, iw amddiffŷn ei hunan; Ac er gwneuthur o hono lawer; Ac er gallu o hono ef etto wneuthur llawer yn erbŷn y gelynnion hŷn, tra cadwo ef hwŷnt wrth flaen ei gleddŷf; Er hynnŷ, os geill Gwan galon, Gwan grêd, ac Euogrwŷdd ddyfod i mewn atto, a chael gafael arno; Deugain i un a trippiant ei sodlau ef; A phan elo Gŵr i lawr, pa beth a all ef wneuthur.
Pwŷ bynnag a edrycho'n graft in wŷneb Grâs Mawr, fe a gaiff welled y fâth greithiau a thorriadau yno, y rhai a wiriant yr hŷn a lefarais i amdano; Je mi a glywais unwaith iddo ddywedŷd (a hynnŷ pan oedd ef in yr ymladdfa, iddo ddywedŷd ⟨p. 160⟩meddafi) yr wi'n ofni a collafi fy mywŷd: Pa fôdd a gwnaeth y dihirwŷr cyndŷn ymma a'u cyfeillion i Ddafŷdd ruddfan, galaru, a rhuo? Je fe orfu i Hezeckiah a Heman hefŷd er eu bôd in Gampwŷr in eu dyddiau, ymdrechu'n gáled pan ruthrodd y rhain arnŷnt? Ac er hŷn igŷd hwŷ a gawsant eu tryhaeddu ganthŷnt; Peder a chwennychodd ar amser brofi beth a allay ef ei wneuthur; And er bôd rhai in dywedŷd amdano may ef oedd Tywŷsog yr Apostolion, etto'r gwŷr hŷn a'u trinasant ef fellu, fell a gwnaethant iddo o'r diwedd ofni morwŷn wael.