A30210:694
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. And pa beth oedd yr achos pa ham yr ymddygasoch fell hŷn, tan weithredoedd cyntaf yr ysprŷd glân ynoch chwi?
CRISTION. Ond pa beth oedd yr achos pa ham yr ymddygasoch fel hŷn, tan weithredoedd cyntaf yr ysprŷd glân ynoch chwi?
Gobeithiol. Yr achosion oeddŷnt,▪ In gyntaf em nas gwŷddwn i may gwaith ysprŷd Duw oedd yr argyhoeddiad ymma; Ac ni wŷbum i erioed o'r blaen may trwŷ ddeffroad am bechod yr oedd Duw in dechreu gweithiô troiadigaeth pechadur; In ail yr oedd pechod in felus etto i'm cnawd; Ac yr oedd in anodd gennif ymadel ag ef; In drydŷdd Ni wŷddwn i pa fodd yr ymadawn a'm hên gymdeithion, gan mor ddymunol yr oedd eu cwmpeini, eu hymadroddion, a'u gweithredoedd gennif; In bedwaredd yr oedd yr oriau hynnŷ, in y rhai yr argyhoeddid fi am fy mhechod, mor gyffrous, ac mor ddychrynllŷd i mi, fell na allwn gymaint a meddwl amdanŷnt heb arswŷd in fy nghalon.
Gobeithiol. Yr achosion oeddŷnt,▪ Yn gyntaf em nas gwŷddwn i mai gwaith ysprŷd Duw oedd yr argyhoeddiad ymma; Ac ni wŷbum i erioed o'r blaen mai trwŷ ddeffroad am bechod yr oedd Duw yn dechreu gweithiô troiadigaeth pechadur; Yn ail yr oedd pechod yn felus etto i'm cnawd; Ac yr oedd yn anodd gennif ymadel ag ef; Yn drydŷdd Ni wŷddwn i pa fodd yr ymadawn a'm hên gymdeithion, gan mor ddymunol yr oedd eu cwmpeini, eu hymadroddion, a'u gweithredoedd gennif; Yn bedwaredd yr oedd yr oriau hynnŷ, yn y rhai yr argyhoeddid fi am fy mhechod, mor gyffrous, ac mor ddychrynllŷd i mi, fel na allwn gymaint a meddwl amdanŷnt heb arswŷd yn fy nghalon.
CRISTION. Mae'n debygol wrth hynnŷ eich bôd weithieu in cael esmwŷthdra oddiwrth ⟨p. 171⟩