A30210:716
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. A oeddechi'n tybied ei fôd ef in dywedŷd y wir?
CRISTION. A oeddechi'n tybied ei fôd ef yn dywedŷd y wir?
Gobeithiol. Pedfasai'n dywedŷd fellu wrthif pan oeddwn in ymhyfrydu, ac in ymfodloni yngwellhâd fy muchedd: Mi a'i galwaswn ef in ynfŷd am ei boen; And yrawron, gan fy môd in gweled fy ngwendid fy hun, a'r pechodau sŷ'n glynu wrth fy nyledswŷddau goreu, fe orfŷdd i mi fôd o'r un feddwl ac yntef.
Gobeithiol. Pedfasai'n dywedŷd fellu wrthif pan oeddwn yn ymhyfrydu, ac yn ymfodloni yngwellhâd fy muchedd: Mi a'i galwaswn ef yn ynfŷd am ei boen; Ond yrawron, gan fy môd yn gweled fy ngwendid fy hun, a'r pechodau sŷ'n glynu wrth fy nyledswŷddau goreu, fe orfŷdd i mi fôd o'r un feddwl ac yntef.
CRISTION. And a oeddechi in tybied (pan ddywedodd ef gyntaf hynnŷ wrthŷch) fôd y sâth ŵr iw gael; Am yr hwn a gelid dywedŷd in hŷf na wnaeth ef bechod erioed?
CRISTION. Ond a oeddechi yn tybied (pan ddywedodd ef gyntaf hynnŷ wrthŷch) fôd y sâth ŵr iw gael; Am yr hwn a gellid dywedŷd yn hŷf na wnaeth ef bechod erioed?