And myfi a attebais, Arglwŷdd yr wŷf in Bechadur, O in Bechadur mawr dross ben: Yntef a attebodd, Digon i ti fy 'ngras i; Ina a dywedais inneu, Arglwŷdd pa beth ŷw Credu? Ac wedi hynnŷ a deallais i oddiwrth yr ymadrodd ymma, Yr hwn sŷ'n dyfod attafi ni newŷna; A'r hwn sŷ'n credu ynofi ni sycheda un amser (Joan 6.35.) Yr un peth ŷw credu Ing Hrist a dyfod atto: A bôd yr hwn sŷdd in dyfod atto, Self sŷ'n fychedu in ei gallon in ôl Jechŷdwriaeth trwŷ Grîst, mae hwnnw (meddafi) in credu yntho mewn gwirionedd: Ina a'r dwfr in sefŷll in fy llygaid, mi a ofynnais iddo ymhellach; Arglwŷdd, a ddichon y fâth Bechadur mawr ag wŷfi gael ei dderbŷn gennit, a bôd in gadwedig trwŷddot? Ac yntef a attehodd, Yr hwn a dell attaf nis bwriaf ef allan ddim (Joan 6.37.) Ina mi a ddywedais, Pa fôdd Arglwŷdd a mae'n rhaid i mi dy ystyried di wrth ddysod attad; Fell a bvddo fy ffŷdd wedi ei gosod in union arnati? Ina fe a ddywedodd, Christ Jesus a ddaeth i'r Bŷd i gadw'r pechaduriaid (1 Timotheus 1.15.) Christ ŷw diwedd y ddeddf er cyfiawnder i bôb un sŷ'n credu (Rhufeiniaid 10.4.) Efe a draddodwŷd tros ein pechodau ⟨p. 178⟩ni, ac a gyfodwŷd i'n cyfiawnhau ni (Rhufeiniaid 4.25.) Efe a'n carodd ni, ac a'n golchodd ni oddiwrth ein pechodau a'i waed ei hun (Datcuddiad 1.5.) Efe ŷw y cyfryngwr rhwng Duw a ninny (1 Timotheus 2.5.) I mae ef in fŷw bôb amser l weddio trosom ni (Hebreaid 7.24, 25.) Oddiwrth yr hŷn ôll cesglais a bŷddai rhaid i mi ddisgwŷl am gyfiawnder in unig in ei Berson ef, ac am jawn tros fy mhechodau trwŷ ei waed ef, ac nid trwŷ ddim arall: Ac mi a gesglais ymhellach, fôd yr hŷn a wnaeth ef mewn ufudd-dod i gyfraith ei Dâd, a'i ddarostyngiad ef i ddioddef cospedigaethau, am waith rhai in troseddu'r gyfraith honno (fôd hŷn ôll meddafi) wedi ei wneuthur, nid trosto ell hun, And tros y sawl a'i derbyniai ef in jachawdwr iddŷnt, ac a fyddai diolchgar iddo; Ac yrawron yr oedd fy nghalon in lawn o lawenŷdd, fy llygaid in lawn o ddagrau, ac yr oedd gennif search rhyfeddol tuagat Enw, a Phobl, a Ffŷrdd yr Arglwŷdd Jesus Grîst.
Ond myfi a attebais, Arglwŷdd yr wŷf yn Bechadur, O yn Bechadur mawr dros ben: Yntef a attebodd, Digon i ti fy 'ngras i; Yna a dywedais inneu, Arglwŷdd pa beth ŷw Credu? Ac wedi hynnŷ a deallais i oddiwrth yr ymadrodd ymma, Yr hwn sŷ'n dyfod attafi ni newŷna; A'r hwn sŷ'n credu ynofi ni sycheda un amser (Joan 6.35.) Yr un peth ŷw credu Yng Hrist a dyfod atto: A bôd yr hwn sŷdd yn dyfod atto, Sef sŷ'n fychedu yn ei galon yn ôl Iechŷdwriaeth trwŷ Grîst, mae hwnnw (meddafi) yn credu yntho mewn gwirionedd: Yna a'r dwfr yn sefŷll yn fy llygaid, mi a ofynnais iddo ymhellach; Arglwŷdd, a ddichon y fâth Bechadur mawr ag wŷfi gael ei dderbŷn gennit, a bôd yn gadwedig trwŷddot? Ac yntef a attehodd, Yr hwn a ddel attaf nis bwriaf ef allan ddim (Joan 6.37.) Yna mi a ddywedais, Pa fôdd Arglwŷdd a mae'n rhaid i mi dy ystyried di wrth ddysod attad; Fel a bvddo fy ffŷdd wedi ei gosod yn union arnati? Yna fe a ddywedodd, Crist Iesu a ddaeth i'r Bŷd i gadw'r pechaduriaid (1 Timotheus 1.15.) Crist ŷw diwedd y ddeddf er cyfiawnder i bôb un sŷ'n credu (Rhufeiniaid 10.4.) Efe a draddodwŷd tros ein pechodau ⟨p. 178⟩ni, ac a gyfodwŷd i'n cyfiawnhau ni (Rhufeiniaid 4.25.) Efe a'n carodd ni, ac a'n golchodd ni oddiwrth ein pechodau a'i waed ei hun (Datcuddiad 1.5.) Efe ŷw y cyfryngwr rhwng Duw a nyni (1 Timotheus 2.5.) I mae ef yn fŷw bôb amser l weddio trosom ni (Hebreaid 7.24, 25.) Oddiwrth yr hŷn ôll cesglais a bŷddai rhaid i mi ddisgwŷl am gyfiawnder yn unig yn ei Berson ef, ac am iawn tros fy mhechodau trwŷ ei waed ef, ac nid trwŷ ddim arall: Ac mi a gesglais ymhellach, fôd yr hŷn a wnaeth ef mewn ufudd-dod i gyfraith ei Dâd, a'i ddarostyngiad ef i ddioddef cospedigaethau, am waith rhai yn troseddu'r gyfraith honno (fôd hŷn ôll meddafi) wedi ei wneuthur, nid trosto el hun, Ond tros y sawl a'i derbyniai ef yn iachawdwr iddŷnt, ac a fyddai diolchgar iddo; Ac yrawron yr oedd fy nghalon yn llawn o lawenŷdd, fy llygaid yn llawn o ddagrau, ac yr oedd gennif serch rhyfeddol tuagat Enw, a Phobl, a Ffŷrdd yr Arglwŷdd Iesu Grîst.