A30210:718
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. And a oeddechi in tybied (pan ddywedodd ef gyntaf hynnŷ wrthŷch) fôd y sâth ŵr iw gael; Am yr hwn a gelid dywedŷd in hŷf na wnaeth ef bechod erioed?
CRISTION. Ond a oeddechi yn tybied (pan ddywedodd ef gyntaf hynnŷ wrthŷch) fôd y sâth ŵr iw gael; Am yr hwn a gellid dywedŷd yn hŷf na wnaeth ef bechod erioed?
Gobeithiol. I mae'n rhaid i mi gyfaddef fôd in o riffed gennif glywed y geiriau hŷn ar y cyntaf; And in ôl ymddiddan ag ef ymhellach, a chael o honof ychydig anghwaneg o'i gymdeithas, fe a rod i mi gyflawn fodlonrhwŷdd am y peth.
Gobeithiol. I mae'n rhaid i mi gyfaddef fôd yn o ryfedd gennif glywed y geiriau hŷn ar y cyntaf; Ond yn ôl ymddiddan ag ef ymhellach, a chael o honof ychydig anghwaneg o'i gymdeithas, fe a rodd i mi gyflawn fodlonrhwŷdd am y peth.
CRISTION. A ofŷnasochi iddo ef pwŷ oedd y Gŵr hwn; A pha fôdd a caechi eich cyfiawnhau trwŷddo ef?
Gobeithiol. Do, ac efe a ddywedodd mai'r Arglwŷdd Jesus oedd, yr hwn sŷ'n eistedd ar ddeheulaw y Goruchaf (Hebreaid 10. Rhufeiniaid 4. Colossiaid 1.