A30210:722
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. A pha beth a wnaethoch gwedi hynnŷ.
Gobeithiol. Myfi a wrth-ddywedais nas gallwn i gredu fôd Christ in ewŷllysgar i'm hachub.
Gobeithiol. Myfi a wrth-ddywedais nas gallwn i gredu fôd Crist yn ewŷllysgar i'm hachub.
CRISTION. Pa bêth a ddywedodd ffyddlon am hynnŷ?
Gobeithiol. Efe a archodd i mi fined atto, a threio pan a wnai ef a'i f'achub i ai peidio; Ina minneu a'i hattebais, may rhyfŷg oedd hynnŷ (Matthew 11.28.) Yntef a ddywedodd nage; Canŷs fe'th wahoddwŷd i ddyfod atto: Ina fe a roddodd i mi lyfr o argraphiad Jesus ei hun, i'm hannog i ddyfod atto in hyfach; Ac efe a ddywedodd am y Llyfr hwnnw, fôd pôb mymrŷn o hono ef in fwŷ parhaus a safadwŷ na'r Nefoedd a'r Ddaiar (Matthew 24.35.) Ina mi a ofynnais iddo, pa beth a wnawn pan ddelwn atto? Yntef a ddywedodd wrthŷf, fôd in rhaid i mi grefu (ar fy ngliniau a'm hôll gallon, ac a'm hôll Enaid) ar y Tâd, am ei ddatcuddio ef i mi (