A30210:742
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Je, mi a'i gwela ef, and ni waeth gantho fawr am ein cwmpeini ni.
CRISTION. Ie, mi a'i gwela ef, ond ni waeth gantho fawr am ein cwmpeini ni.
Gobeithiol. And yr ydwŷfi'n tybied na chawsei ef niweid in y Bŷd o'n canlŷn ni hŷd in hŷn.
Gobeithiol. Ond yr ydwŷfi'n tybied na chawsei ef niweid yn y Bŷd o'n canlŷn ni hŷd yn hŷn.
CRISTION. Gwir jawn ŷw hynnŷ, and mi a wrantaf i chwi ei fôd e'n meddwl in amgen.
CRISTION. Gwir iawn ŷw hynnŷ, ond mi a wrantaf i chwi ei fôd e'n meddwl yn amgen.
Gobeithiol. Fellu yr wŷf inneu in tybied hefŷd; And er hynnŷ gadewch i ni aros amdano ef, Ac fellu a gwnaethant: Ina Cristion a alwodd arno, gan ddywedŷd wrtho, Dowch ymlaen ŵr, paham yr ydŷch in sefŷll o'r ôl in y môdd yna?
Gobeithiol. Fellu yr wŷf inneu yn tybied hefŷd; Ond er hynnŷ gadewch i ni aros amdano ef, Ac fellu a gwnaethant: Yna Cristion a alwodd arno, gan ddywedŷd wrtho, Dowch ymlaen ŵr, paham yr ydŷch yn sefŷll o'r ôl yn y môdd yna?