A30210:848
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac in ddiweddaf, Wedi eu caledu, hwŷ a ymddangosant in eu llun eu hun; Ac in ôl llithro o honŷnt fell hŷn ir llyngclŷn o drueni (oddigerth i ryfeddol râs Duw eu hachub) fe dderfŷdd am danŷnt in dragywŷdd, in eu twŷll a'u hudoliaethau eu hunain.
Ac yn ddiweddaf, Wedi eu caledu, hwŷ a ymddangosant yn eu llun eu hun; Ac yn ôl llithro o honŷnt fel hŷn ir llyngclŷn o drueni (oddigerth i ryfeddol râs Duw eu hachub) fe dderfŷdd am danŷnt yn dragywŷdd, yn eu twŷll a'u hudoliaethau eu hunain.
Yrawron mi welais in fy mreuddwŷd, fod y Pererinod erbŷn hŷn wedi mined tros y Tîr a felltithwŷd, ac in dechreu mined i wlâd Beulah (Esaŷ 62.4.) yr hon sŷdd wlâd jachus a hyfrŷd; Ac yr oedd y ford in mined in uniawn trwŷddi; Ac ymma hwŷ a gymerasant eu hesmwŷthdra tros rŷw ennŷd o amser.
Yrawron mi welais yn fy mreuddwŷd, fod y Pererinod erbŷn hŷn wedi myned tros y Tîr a felltithwŷd, ac yn dechreu myned i wlâd Beulah (Esaŷ 62.4.) yr hon sŷdd wlâd iachus a hyfrŷd; Ac yr oedd y ffordd yn myned yn uniawn trwŷddi; Ac ymma hwŷ a gymerasant eu hesmwŷthdra tros rŷw ennŷd o amser.
Yr oeddent ymma in wastadol in clywed yr adar in canu (Caniadau 2.10, 11, 12.) Ac in gweled y Blodau o ddŷdd i ddŷdd in ymddangos ar y ddaiar; Ac yr oeddŷnt in clywed llais y Durtur in y Tir ymma; In y wlâd hon hefŷd yr oedd yr haul in tywŷnnu Nôs a Dŷdd; Ac erbŷn hŷn yr oeddent ymhell oddiwrth Ddyffrŷn Cysgod Angeu; Ac hefŷd allan o gyrraedd y Cawr Anobaith; Ac ni allent ychwaith gymmaint a gweled Castle Ambeus o'r man hwn: Yr oeddent hwŷ ymma wedi dyfod mewn golwg i'r Ddinas, yr oeddŷnt in mined iddi; Hwŷ a gyfarfuant ymma hefŷd a rhai o drigolion y wlâd; Canŷs yr oedd y rhai disclair in rhodio in gyffredinol in y wlâd ⟨p. 196⟩