A30210:852
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yrawron wrth ymdeithio in y wlâd hon, hwŷ a gawsant fwŷ o ddiddanwch, nag a gawsant mewn mannau oedd bellach oddiwrth y Deŷrnas, yr oeddent in mined iddi; Ac fell-yr oeddŷnt in nesu at y Ddinas, yr oedd hi'n ymddangos in Eglurach iddŷnt nag o'r blaen; Yr oedd hi wedi ei hadeiladu a Pherlau, ac a Meini gwerthfawr: Yr oedd ei holl heolŷdd hi wedi eu Palmantu ag Aur; Cristion wrth welled gogoniant naturiol y Ddinas, a thywŷniad Penŷd yr Haul arni, a glafychodd o wir search iddi. Gobeithiol hefŷd a gafodd wasgfa neu ddwŷ o'r un clefŷd; Ac am hynnŷ buant ymma dross dro in gorwedd, ac in gwaeddi allan in eu Llesmelriadau, Os gwelwch fy anwŷlŷd mynegwch iddo fy môd in glâf o gariad.
Yrawron wrth ymdeithio yn y wlâd hon, hwŷ a gawsant fwŷ o ddiddanwch, nag a gawsant mewn mannau oedd bellach oddiwrth y Deŷrnas, yr oeddent yn myned iddi; Ac fel-yr oeddŷnt yn nesu at y Ddinas, yr oedd hi'n ymddangos yn Eglurach iddŷnt nag o'r blaen; Yr oedd hi wedi ei hadeiladu a Pherlau, ac a Meini gwerthfawr: Yr oedd ei holl heolŷdd hi wedi eu Palmantu ag Aur; Cristion wrth weled gogoniant naturiol y Ddinas, a thywŷniad Penŷd yr Haul arni, a glafychodd o wir serch iddi. Gobeithiol hefŷd a gafodd wasgfa neu ddwŷ o'r un clefŷd; Ac am hynnŷ buant ymma dros dro yn gorwedd, ac yn gwaeddi allan yn eu Llesmelriadau, Os gwelwch fy anwŷlŷd mynegwch iddo fy môd yn glâf o gariad.
And gwedi iddŷnt wellhau a chryfhau ychydig, hwŷ a aethant iw ford; Ac a ddaethant in nesnes i fan lle'r oedd Perllannau, a Gwinllanoedd, a Gerddi, a'u pŷrth in agored tua'r Brif-ford; Yrawron wedi dyfod o honŷnt i fynu at y lleoedd ymma, gwelent y Garddwr in sefŷll ar y ford; A'r Pererinod a ofŷnnasant iddo eiddo pwŷ ŷw'r ⟨p. 197⟩Gwinllanoedd a'r Gerddi hyfrŷd hŷn? Yntef a attebodd eiddo'r Brenin ydŷnt; A hwŷ a blanwŷd ymma er mwŷn difyrrwch iddo ei hun, a diddanwch i Bererinod; Fellu'r Garddwr a'u dygodd hwŷnt i mewn i'r Gwinllanoedd; Ac a archodd iddŷnt eu hybu eu hunain a'r dainteithion oedd yno: Efe a ddangosodd iddŷnt hefŷd Rodfŷdd y Brenin, a'r Llwŷnau lle yr oedd ef in hoffi rhodio ynthŷnt a thanŷnt; Ac ymma yr arosasant ac a cysgasant.