A30210:856
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y Gwŷr hŷnnŷ a ofŷnnasant i'r Pererinod o ba lê yr oeddent in dysod? A hwŷ a fynegasant iddŷnt y gwirionedd; Gofŷnnasant hefŷd, ymha lê a buasent in lletteva? Pa anhawster a pheryglon, pa gysur a difyrrwch a gawsent hwŷ in eu ford? Hwŷthau a adroddasant y cwbi ôll wrthŷnt: Ina ebŷr y Gwŷr a gyfarfu a hwŷnt, nid oes i chwi ⟨p. 198⟩mwŷ and dau anhawsder i fined trwŷddŷnt, ac ar ôl hynnŷ yr ydŷchi in y Ddinas.
Y Gwŷr hŷnnŷ a ofŷnnasant i'r Pererinod o ba lê yr oeddent yn dysod? A hwŷ a fynegasant iddŷnt y gwirionedd; Gofŷnnasant hefŷd, ymha lê a buasent yn lletteua? Pa anhawster a pheryglon, pa gysur a difyrrwch a gawsent hwŷ yn eu ffordd? Hwŷthau a adroddasant y cwbi ôll wrthŷnt: Yna ebŷr y Gwŷr a gyfarfu a hwŷnt, nid oes i chwi ⟨p. 198⟩mwŷ ond dau anhawsder i fyned trwŷddŷnt, ac ar ôl hynnŷ yr ydŷchi yn y Ddinas.
Ina Cristion a'i Gydymaith a attolygasant ar y Gwŷr ddyfod gyda hwŷnt; Hwŷthau a'u hattebasant, a daent hwŷ gyda nhw; And ebŷr y Gwŷr mae'n rhaid chwi ennill hynnŷ trwŷ eich ffŷdd eich hun: Fellu mi a'u gwelwn hwŷ in mined gyda'u gilŷdd hŷdoni ddaethant mewn golwg i'r porth.
Yna Cristion a'i Gydymaith a attolygasant ar y Gwŷr ddyfod gyda hwŷnt; Hwŷthau a'u hattebasant, a daent hwŷ gyda nhw; Ond ebŷr y Gwŷr mae'n rhaid chwi ennill hynnŷ trwŷ eich ffŷdd eich hun: Fellu mi a'u gwelwn hwŷ yn myned gyda'u gilŷdd hŷdoni ddaethant mewn golwg i'r porth.
Yrawron mi a welwn ymhellach, fôd Afon rhyngthŷnt a'r porth, heb un Bont i fined trossi; A'r afon oedd in ddwfn jawn: A'r Pererinod pan ŵelsant yr afon ymma, a synnasant in fawr; A'r Gwŷr a ddaethai gyda hwŷnt a ddywedasant, mae'n rhaid i chwi fined trwŷ'r afon ymma, Onide ni ellwch chwi ddyfod at y porth.