A41643:264
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cais gan hynny wîr-fodloni dy gallon in holl-ddigonolrwydd Aberth Christ, fôd ei farwolaeth ef in gyflawn jawn i Gyfiawnder Duw am dy bechodau di; Canys amgen, pan ddechrevo nail ai dy gydwybod, a'i Diafol drymh•u dy bechodau a'u gosod mewn trefn, o ran eu rhifedi a'u maintioli, o'th flaen di, ti a ddigalonni, ac a fyddi barod i anobeithio: And pettit in lawn-deal berffeithied jawn oedd Marwolaeth Christ i Gyfiawnder Daw am dy bechodau di, nid ofnit beth a allay na'th gydwybod, na Diafol roddi in dy erbyn. Anwylyd, mae 'r matter rhwng Duw a ninnau a'n Harglwydd Jesus Ghrist, in debyg i Feistr perchen dled, y d'ledwr, a'r meichiau; er bôd y d'ledwr heb allu mewn mod in y bŷd dalu ei ddlêd, na rhoi-dim tu ac at hynny, etto os lawn-dalodd y meichiau y ddlêd, a dryllio 'r sgrifen, nid rhaid i'r dledwr ofni mo'i garcharu na'i arrestio. Felly er ein bôd ni mewn dlêd fawr i Dduw, ac in llwyr an-abl i roi jawn am ein pechodau in y lleiaf; etto gan ddarfod i'n machniudd ni gymmeryd arno ddlêd ein pechodau ni, a lawn-fodloni cyfiawnder Duw am danynt, trwy offrymmu ei fywyd ei hun in llwyr-ddigonol Aberth ar y Gross, nid rhaid ini ofni cyhuddedau Cydwybod, na rheswm cnawdol, na holl Gythreuliaid uffern, os cymhwyswn haeddedigaethau marwolaeth Christ atom ein hunain er cyssur i'n eneidiau.
Cais gan hynny wîr-fodloni dy galon yn holl-ddigonolrwydd Aberth Christ, fôd ei farwolaeth ef yn gyflawn iawn i Gyfiawnder Duw am dy bechodau di; Canys amgen, pan ddechreuo naill ai dy gydwybod, a'i Diafol drymh•u dy bechodau a'u gosod mewn trefn, o ran eu rhifedi a'u maintioli, o'th flaen di, ti a ddigalonni, ac a fyddi barod i anobeithio: Ond pettit yn llawn-ddeall berffeithied iawn oedd Marwolaeth Christ i Gyfiawnder Daw am dy bechodau di, nid ofnit beth a allai na'th gydwybod, na Diafol roddi yn dy erbyn. Anwylyd, mae 'r matter rhwng Duw a ninnau a'n Harglwydd Jesu Ghrist, yn debyg i Feistr perchen dled, y d'ledwr, a'r meichiau; er bôd y d'ledwr heb allu mewn modd yn y bŷd dalu ei ddlêd, na rhoi-dim tu ac at hynny, etto os llawn-dalodd y meichiau y ddlêd, a dryllio 'r sgrifen, nid rhaid i'r dledwr ofni mo'i garcharu na'i arrestio. Felly er ein bôd ni mewn dlêd fawr i Dduw, ac yn llwyr an-abl i roi iawn am ein pechodau yn y lleiaf; etto gan ddarfod i'n machniudd ni gymmeryd arno ddlêd ein pechodau ni, a llawn-fodloni cyfiawnder Duw am danynt, trwy offrymmu ei fywyd ei hun yn llwyr-ddigonol Aberth ar y Groes, nid rhaid ini ofni cyhuddedau Cydwybod, na rheswm cnawdol, na holl Gythreuliaid vffern, os cymhwyswn haeddedigaethau marwolaeth Christ attom ein hunain er cyssur i'n eneidiau.