PEN. VIII. In dangos fod gobaith o drugaredd i'r pechaduriaid gwaethaf.PEN. VIII. Yn dangos fod gobaith o drugaredd i'r pechaduriaid gwaethaf.
pp. 57–6218 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
PEN. VIII. In dangos fod gobaith o drugaredd i'r pechaduriaid gwaethaf.
PEN. VIII. Yn dangos fod gobaith o drugaredd i'r pechaduriaid gwaethaf.
II. Gwirionedd arall iw dderbyn, o ran dwyn i ben dy Ail-enedigaeth, yw hwn, Fôd gobaith o drugaredd i'r pechaduriaid mwyaf.
Er bôd cyflwr dynion heb yr Ail-enedigaeth in drîst ac in resynol, etto nid yw ef in anobeithiol: mae gobaith o drugaredd i'r gwaethaf o honynt, yr hyn a ymddengys wrth ddyledus-ystyried, 1. Ewllysgarwch Duw i achub y pechaduriaid gwaethaf. 2. Lawn ddigonol-rwydd Aberth Christ. 3. Parodrwydd Christ i dderbyn yr holl bechaduriaid, y rhai a ddevant atto ef, ac a'i derbyniant ar ammodau 'r efengyl.
Er bôd cyflwr dynion heb yr Ail-enedigaeth yn drîst ac yn resynol, etto nid yw ef yn anobeithiol: mae gobaith o drugaredd i'r gwaethaf o honynt, yr hyn a ymddengys wrth ddyledus-ystyried, 1. Ewllysgarwch Duw i achub y pechaduriaid gwaethaf. 2. Llawn ddigonol-rwydd Aberth Christ. 3. Parodrwydd Christ i dderbyn yr holl bechaduriaid, y rhai a ddeuant atto ef, ac a'i derbyniant ar ammodau 'r efengyl.
1. Ewyllysgarwch Duw i achub y pechaduriaid gwaethaf, sy'n eglur, oddiwrth ei râd-gynnig ef o Ghrist i bawb a'i derbyniant trwy law ffydd: Fell na henwir nêb, felly ni chaúir allan nêb. Yr Angel a ddaeth o'r nefoedd â'r newyddion o anedigaeth Christ, a ddywed, ei fôd i'r holl bobl Weal, medd efe, yr wyfi in mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl.