A41643:267
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Felly Datg. 22.17. Yr hwn sydd a syched arno, deved, a'r hwn sydd in ewyllysio, cymmered ddwfr y bywyd in rhâd. Hynny yw, pwy bynnag sydd in mawr-ewyllysio ac in hiraethu am fôd in gyfrannog o Ghrist, a lleshâd ei farwolaeth a'i ddioddefaint, hwy a wahoddir i ddyfod atto ef. Felly mae in eglur jawn fôd Jesus Ghrist, trwy ŷ Gwahoddion grasol hyn i bechaduriaid sychedig truain i ddyfod atto ef, in dangos mor barod ryfeddol ydyw iw derbyn fell y byddont gadwedig.
Felly Datg. 22.17. Yr hwn sydd a syched arno, deued, a'r hwn sydd yn ewyllysio, cymmered ddwfr y bywyd yn rhâd. Hynny yw, pwy bynnag sydd yn mawr-ewyllysio ac yn hiraethu am fôd yn gyfrannog o Ghrist, a lleshâd ei farwolaeth a'i ddioddefaint, hwy a wahoddir i ddyfod atto ef. Felly mae yn eglur iawn fôd Jesu Ghrist, trwy ŷ Gwahoddion grasol hyn i bechaduriaid sychedig truain i ddyfod atto ef, yn dangos mor barod ryfeddol ydyw iw derbyn fel y byddont gadwedig.
2. Ewyllysgarwch Christ sydd eglur oddiwrth y diben y daeth ef i'r Bŷd o'i blegid, yr hwn oedd i geisio ac i gadw pechaduriaid colledig. Fe ddaeth o'r nefoedd i'r ddaiar am hyn, fell y danfonai ni o'r ddaiar i'r nefoedd. Mâb Duw aeth in Fâb dŷn, fell y gallem ni meibion dynion fined in Feibion i Dduw. In ddiau dyfod o Ghrist o'r nefoedd i'n cadw ni o uffern, a'i anghoroni ei hun i'n coroni ni, sydd in dangos parodrwydd rhyfeddol ynddo ef i gadw pechaduriaid.
2. Ewyllysgarwch Christ sydd eglur oddiwrth y diben y daeth ef i'r Bŷd o'i blegid, yr hwn oedd i geisio ac i gadw pechaduriaid colledig. Fe ddaeth o'r nefoedd i'r ddaiar am hyn, fel y danfonai ni o'r ddaiar i'r nefoedd. Mâb Duw aeth yn Fâb dŷn, fel y gallem ni meibion dynion fyned yn Feibion i Dduw. Yn ddiau dyfod o Ghrist o'r nefoedd i'n cadw ni o vffern, a'i anghoroni ei hun i'n coroni ni, sydd yn dangos parodrwydd rhyfeddol ynddo ef i gadw pechaduriaid.