A41643:270
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
PEN. IX. In dangos y dled'swyddau iw gwneuthur o ran dwyn i ben ein Hail-enedigaeth.
PEN. IX. Yn dangos y dled'swyddau iw gwneuthur o ran dwyn i ben ein Hail-enedigaeth.
Gwedi dangos i chwi y Gwirioneddau iw derbyn o ran dwyn i ben ein Hail-enedigaeth, yr wyf in dyfod yr awron at y Dlêdswyddau o'n rhan ni iw gwneuthur a'i cyflawni.
GWedi dangos i chwi y Gwirioneddau iw derbyn o ran dwyn i ben ein Hail-enedigaeth, yr wyf yn dyfod yr awron at y Dlêdswyddau o'n rhan ni iw gwneuthur a'i cyflawni.
I. Oddiwrth ystyriaeth dy gyflwr gresynol, tra byddech heb yr Ail-enedigaeth, ac o'r gobaith sydd itti o gyfnewid bendigedig; Cynhyrfa ynot dy bun hiraeth difrifol a thaer-ddymuniad am yr enedigaeth newydd, fell y gallech ddywedyd in wîr, Oh na bawn ni wedi fy adgenhedlu a'm geni o newydd! Oh na bay Delw Diafol wedi •i ddiddymmu ynofi, a Delw Dduw wedi ei osod arnaf! Oh na byddai newid bendigedig wedi ei weithio in fy enaid, newid o nature i râs, o dywyllwch i oleuni, o deyrnas Satan i deyrnas yr Arglwydd Jesus! Oh na chawn i fôd in greadur newydd, wedi fy adnewyddu trwyddof, in holl nerthoedd fy enaid, a holl aelodau fy nghorph!
I. Oddiwrth ystyriaeth dy gyflwr gresynol, tra byddech heb yr Ail-enedigaeth, ac o'r gobaith sydd itti o gyfnewid bendigedig; Cynhyrfa ynot dy bun hiraeth difrifol a thaer-ddymuniad am yr enedigaeth newydd, fel y gallech ddywedyd yn wîr, Oh na bawn ni wedi fy adgenhedlu a'm geni o newydd! Oh na bai Delw Diafol wedi i ddiddymmu ynofi, a Delw Dduw wedi ei osod arnaf! Oh na byddai newid bendigedig wedi ei weithio yn fy enaid, newid o natur i râs, o dywyllwch i oleuni, o deyrnas Satan i deyrnas yr Arglwydd Jesu! Oh na chawn i fôd yn greadur newydd, wedi fy adnewyddu trwyddof, yn holl nerthoedd fy enaid, a holl aelodau fy nghorph!