A41643:335
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
PEN. X. Moddion eraill o'n rhan ni i gael yr Ail-enedigaeth.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Gweddía ar Dduw am newid dy gallon: Erfyn arno ef a'r iddo ef ryngu bodd trwy ei yspryd dy adnewyddu di, i osod ei ddelw ar dy enaid, fell y byddit in Greadur newydd. Yr hyn a ddywed yr Apostol Jaco am ddoethineb, sydd wîr am bob Grâs, Jac. 1.5. Od oes ar nêb ei eisieu, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd in rhoi in haelionu• i bawb, ⟨p. 78⟩ac heb ddannod; a hi a roddir iddo ef. Oh gan hynny, taer-ddymuna arno ef agoryd dy lygaid, a dangos itti dy gyflwr trîst gofidus, tra fyddych in parhâu heb yr Ail-enedigaeth, fell y byddech wîr deimladwy o hynny; ar iddo ef ddangos itti odidawgrwydd ac angenrhaid yr enedigaeth newydd, fell y cynhyrfer dy gallon i ray dymuniadau difrifol a hiraethus am dano: ar iddo deilyngu roddi itti yspryd Sanctaidd, i fywhâu dy enaid marw, ac iw adnewyddu ar ôl Delw Dduw, mewn cyfiawnder a gwîr sancteiddrwydd. Ac in dy weddíau sâf a'r Addewid Duw. Luc. 11.13. I rôi ei yspryd glân i'r nêb a'i gofynno ganddo ef.
3. Gweddía ar Dduw am newid dy galon: Erfyn arno ef a'r iddo ef ryngu bodd trwy ei yspryd dy adnewyddu di, i osod ei ddelw ar dy enaid, fel y byddit yn Greadur newydd. Yr hyn a ddywed yr Apostol Jaco am ddoethineb, sydd wîr am bob Grâs, Jac. 1.5. Od oes ar nêb ei eisieu, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionu• i bawb, ⟨p. 78⟩ac heb ddannod; a hi a roddir iddo ef. Oh gan hynny, taer-ddymuna arno ef agoryd dy lygaid, a dangos itti dy gyflwr trîst gofidus, tra fyddych yn parhâu heb yr Ail-enedigaeth, fel y byddech wîr deimladwy o hynny; ar iddo ef ddangos itti odidawgrwydd ac angenrhaid yr enedigaeth newydd, fel y cynhyrfer dy galon i rai dymuniadau difrifol a hiraethus am dano: ar iddo deilyngu roddi itti yspryd Sanctaidd, i fywhâu dy enaid marw, ac iw adnewyddu ar ôl Delw Dduw, mewn cyfiawnder a gwîr sancteiddrwydd. Ac yn dy weddíau sâf a'r Addewid Duw. Luc. 11.13