PEN. X. Moddion eraill o'n rhan ni i gael yr Ail-enedigaeth.
pp. 76–8120 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
PEN. X. Moddion eraill o'n rhan ni i gael yr Ail-enedigaeth.
VII. Disgwyl trwy amynedd ar Ghrist in arfer ei Ordinhadau ef, in enwedig y Gair a Gweddi.
VII. Disgwyl trwy amynedd ar Ghrist yn arfer ei Ordinhadau ef, yn enwedig y Gair a Gweddi.
1. Cyrcha in fynych at weinidogaeth y Gair, lle mae yspryd Duw in arfer o anadlu. Yr yspryd yw 'r Gweithiwr pennaf o'r gwaith mawr hwn. A Gweinidogaeth y Gair yw 'r mod arferol a'r offeryn, yr hwn a arfer yr yspryd in ei weithio ef. Nid yw yspryd Duw in anadlu mewn Tafarn, neu Win-dŷ, neu Chwareu-dŷ, and y Ngweinidogaeth y Gair. O herwydd hyn y geilw 'r Apostol Paul ef, Phil. 2.16. Gair y bywyd, trwy 'r hwn y bywhêir ein heneidiau. A'r Apostol Petr, Hâd yr Ail-enedigaeth, trwy 'r hwn i'n hail-genhedlir, 1 Pet. 1.23.
1. Cyrcha yn fynych at weinidogaeth y Gair, lle mae yspryd Duw yn arfer o anadlu. Yr yspryd yw 'r Gweithiwr pennaf o'r gwaith mawr hwn. A Gweinidogaeth y Gair yw 'r modd arferol a'r offeryn, yr hwn a arfer yr yspryd yn ei weithio ef. Nid yw yspryd Duw yn anadlu mewn Tafarn, neu Win-dŷ, neu Chwareu-dŷ, ond y Ngweinidogaeth y Gair. O herwydd hyn y geilw 'r Apostol Paul ef, Phil. 2.16. Gair y bywyd, trwy 'r hwn y bywhêir ein heneidiau. A'r Apostol Petr, Hâd yr Ail-enedigaeth, trwy 'r hwn i'n hail-genhedlir, 1 Pet. 1.23.