A41643:450
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Bydded i'th enaid gan hynny in fynych dderchafu i fynu ar adenydd mysyrdod nefol. Nâd i un amser y byddech ar dy ben dy hun, fined heibio, heb ryw fyfyrdod ysprydol ac ymddiddan â Duw. Nail a'i edrych in alarus ar dy aml bechodau, yr hyn a dynno oddiwrthit, fell gwîr ofid calon am danynt, felly hefyd byrrerfyniau calonnog am bardwn a maddevant o honynt. Neu edrych ar fendithion a thrugareddau Duw tuac attat, a bydded i hyn helaethu a derchafu dy gallon mewn moliant a diolch iddo ef. Neu ymddigrifa trwy ryfeddolgofio gwaed haeddiannol yr Oen diféius Jesus Ghrist, yr hwn a dywalltwyd in helaeth i'th lwyr-olchi, enaid a chorph oddiwrth aflendid a budreddi dy bechod. Dwysystyria yr hyn a wnaeth ac a ddioddefodd ef trosoti; pa fodd y cyflawnodd y Ddeddf, ac yr aeth tan y gospedigaeth ddyledus am dy bechodau di, ac in awr mae in y nefoedd in eiriol trosoti, trwy ei gyflwyno ei hun in lawn-ddigonol Aberth iw Dâd am dy bechodau di. Oh meddwl ynot dy hun, beth a fuasai raid itti ddioddef am dy bechodau oni buasei iddo ef ddioddef am danynt. Beth a fuasit ti oni buasai iddo ef dy brynu di, self caeth-was Satan a phentewyn uffern.
Bydded i'th enaid gan hynny yn fynych dderchafu i fynu ar adenydd mysyrdod nefol. Nâd i vn amser y byddech ar dy ben dy hun, fyned heibio, heb ryw fyfyrdod ysprydol ac ymddiddan â Duw. Naill a'i edrych yn alarus ar dy aml bechodau, yr hyn a dynno oddiwrthit, fel gwîr ofid calon am danynt, felly hefyd byrrerfyniau calonnog am bardwn a maddeuant o honynt. Neu edrych ar fendithion a thrugareddau Duw tuac attat, a bydded i hyn helaethu a derchafu dy galon mewn moliant a diolch iddo ef. Neu ymddigrifa trwy ryfeddolgofio gwaed haeddiannol yr Oen diféius Jesu Ghrist, yr hwn a dywalltwyd yn helaeth i'th lwyr-olchi, enaid a chorph oddiwrth aflendid a budreddi dy bechod. Dwysystyria yr hyn a wnaeth ac a ddioddefodd ef trosoti; pa fodd y cyflawnodd y Ddeddf, ac yr aeth tan y gospedigaeth ddyledus am dy bechodau di, ac yn awr mae yn y nefoedd yn eiriol trosoti, trwy ei gyflwyno ei hun yn llawn-ddigonol Aberth iw Dâd am dy bechodau di. Oh meddwl ynot dy hun, beth a fuasai raid itti ddioddef am dy bechodau oni buasei iddo ef ddioddef am danynt. Beth a fuasit ti oni buasai iddo ef dy brynu di, sef caeth-was Satan a phentewyn vffern.