A41643:471
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
IV. Cynhyrfa ynot dy hunan ddymuniadau difrifol am gael marwhau a darostwng dy drachwantau: Pan ddymuni unwaith in ddifrifol ddestryw dy anwireddau, mae gobaith na byddant hwy hîr oesog; canys y mae 'r Arglwydd in addaw i gyflawni dymuniad y rhai a'i hofnant ef, gwrendy ar •u ochneidiau, ac efe a'u gwared hwynt, Psal. 145.19.
IV. Cynhyrfa ynot dy hunan ddymuniadau difrifol am gael marwhau a darostwng dy drachwantau: Pan ddymuni unwaith yn ddifrifol ddestryw dy anwireddau, mae gobaith na byddant hwy hîr oesog; canys y mae 'r Arglwydd yn addaw i gyflawni dymuniad y rhai a'i hofnant ef, gwrendy ar •u ochneidiau, ac efe a'u gwared hwynt, Psal. 145.19.
V. Achwyn wrth Dduw o herwydd grim dy chwantau, a chais trwy weddi nerth oddiwrtho ef in eu herbyn. Oddiwrth Dduw in unig mae 'n rhaid ini gael nerth; ei nerth ef in unig a all ein cymmorth ni in erbyn nerth y pechod. A gweddi yw 'r Mod i gael hynny.
V. Achwyn wrth Dduw o herwydd grym dy chwantau, a chais trwy weddi nerth oddiwrtho ef yn eu herbyn. Oddiwrth Dduw yn vnig mae 'n rhaid ini gael nerth; ei nerth ef yn vnig a all ein cymmorth ni yn erbyn nerth y pechod. A gweddi yw 'r Modd i gael hynny.
VI. Dyro ffydd y Nghrist ar waith am farweiddio dy chwantau pechadurus, a'th lygredigaethau. Ir diben hwn,