A41643:78
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Bywhâd, ydyw cenhedl•ad bywyd grâs ynom, o'r hyn yr ydym in byw mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder. Fe osodir allan in yr Ysgrythur trwy fod Duw in ein bywhaû ni, a thrwy ein bod ninnau in rhodio mewn newydd-deb buchedd, Eph. 2.5.
2. Bywhâd, ydyw cenhedl•ad bywyd grâs ynom, o'r hyn yr ydym yn byw mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder. Fe osodir allan yn yr Ysgrythur trwy fod Duw yn ein bywhaû ni, a thrwy ein bod ninnau yn rhodio mewn newydd-deb buchedd, Eph. 2.5.
Mae Bywhâd gan hynny in arwyddo bywyd newydd ysprydol, y mae Duw trwy ei yspryd in ei weithio ynom, yr hwn sydd lwyr-wrthwynebol i'n buchedd naturiol lygredig o'r blaen. Canys ffrwythau y bywyd hwn ydyw sancteiddrwydd a chyfiawnder, a phob math a'r weithredoedd da.
Mae Bywhâd gan hynny yn arwyddo bywyd newydd ysprydol, y mae Duw trwy ei yspryd yn ei weithio ynom, yr hwn sydd lwyr-wrthwynebol i'n buchedd naturiol lygredig o'r blaen. Canys ffrwythau y bywyd hwn ydyw sancteiddrwydd a chyfiawnder, a phob math a'r weithredoedd da.
Felly mae in wîr-angenrheidiol, chwanegu y rhan hon o'r Ail-enedigaeth, self Bywhâd, at yr un o farwhâd, yr hyn yw y rhan arall, je mor angenrheidiol ag i Ghrist, wedi marw, adgyfodi. P'le buasei lleshâd marwolaeth Christ, oni buasei iddo gyfodi oddiwrth y meirw? A pha •eshâd a ellir ei feddwl fod ym marwhâd? Am hynny ford arferol yr Ysgrythur lân ydyw, dwyn i mewn, dilyn sancteiddrwydd, wedi cilio oddiwrth bechod; gwnethur da, wedi gochel drwg. Felly y pethau a gyssylltodd Duw, na wahaned nêb.