Eithr o Dád daionus, er mwyn Jesus Grist dy anwyl fab, in yr hwn in unig i'th fodlonir, ac er mwyn haeddedigaethau yr angau chwerwdôst, a'r dioddesaint gwaedlyd, yr hyn yr ydym in ei gredu a oddefodd trosom ni: trugarha wrthym, maddau a deleva ⟨p. 193⟩ein holl bechodau, a rhyddhâ ni oddiwrth y gwarth a'r cywilydd sydd ddysedus i ni am danynt, fell na allont sith gyffwrdd a ninny, i'n gwradwyddo in y bid hwn, nac i'n hevog-farnu in y bid sydd i ddyfod. Ac megis y crevaist ni i'th wasanaethu di, a'r holl greaduriaid eraill i'n gwasanaethu ninnau: felly ni atttolygwn i ti anfon dy Yspryd glân i'n calonnau, fell trwy ei lewyrch a'i weithrediad ffrwythlon, y gwelom ac yr ymwrandawom a'n pechodau, ac a'n llygredigaethau anianol, megis na byddom gwedi ein dallu ynddynt trwy ymarfer, fell y mae y colledigion: eithr bod o honom ni fwyfwy in eu ffieiddio hwynt, ac o'n calonnau in dra-ofidus am danynt, gan ymegnio i ymarfer pob moddion da iw gorchfygu, ac i fined allan o honynt. Oh pâr i ni glywed gallu marwolaeth Christ in llâdd pechod in ein cyrph marwol; a rhinwedd ei adg•fodiad in cyfodi ein heneidiau i newydd-deb buchedd. Ymchwel ein calonnau, gostwng ein trachwantau, adneŵydda ein meddyliau, glanhá ein hanian; ac na chynnwys mo honom i soddi in ein hanwireddau budron, ac in nifyrrwch pechodlawn yr oes hon, yr hyn both a ddygodd filoedd bendramwnwgl i ddestryw tragwyddol: Eithr gweithia ni beunydd fwyfwy at agwedd a chyffelybiaeth dy Fab Jesus Grist, fell y gallom mewn cyfiawnder, a sancteiddrwydd, dy wasanaethu a'th ogoneddu; megis gan fyw in dy ofn, a marw in dy ffafr, y caffom (in yr amser á osodaist) gyfran o adgyfodiad y cyfiawn, i fywyd tragwyddol. In y cyfamser O Arglwydd, chwanega ynom ffydd in addewidion hyfryd dy Efengyl, edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, diogelwch o'n gobaith in dy addewidion, ofn dy enw, casineb ein pechodau, a chariad tu ac at dy blant di: in enwedig tu ac at y rhai y gwyddom fod arnynt eisiau ein cymmorth a'n diddanwch: megis ⟨p. 194⟩trwy ffrwythau duwioldeb, a bywyd cyfiawn, y byddom sicr o fod dy Yspryd sanctaidd in aros ynom, a'n bod in blant i ti trwy fabwys a rhâd. A channiadhâ i ni o Dâd daionus, barhâd o jechyd, tanghneddyf, a chynhaliaeth, a'r holl bethau eraill oddiallan, cyn belled, ac y gwelo dy Ddwywawl Ddoethineb fod in addas, ac in angenrhaid, i bob un o honom.
Eithr o Dád daionus, er mwyn Jesu Grist dy anwyl fab, yn yr hwn yn vnig i'th fodlonir, ac er mwyn haeddedigaethau yr angau chwerwdôst, a'r dioddesaint gwaedlyd, yr hyn yr ydym yn ei gredu a oddefodd trosom ni: trugarha wrthym, maddau a deleua ⟨p. 193⟩ein holl bechodau, a rhyddhâ ni oddiwrth y gwarth a'r cywilydd sydd ddysedus i ni am danynt, fel na allont fyth gyffwrdd a nyni, i'n gwradwyddo yn y byd hwn, nac i'n heuog-farnu yn y byd sydd i ddyfod. Ac megis y creuaist ni i'th wasanaethu di, a'r holl greaduriaid eraill i'n gwasanaethu ninnau: felly ni atttolygwn i ti anfon dy Yspryd glân i'n calonnau, fel trwy ei lewyrch a'i weithrediad ffrwythlon, y gwelom ac yr ymwrandawom a'n pechodau, ac a'n llygredigaethau anianol, megis na byddom gwedi ein dallu ynddynt trwy ymarfer, fel y mae y colledigion: eithr bod o honom ni fwyfwy yn eu ffieiddio hwynt, ac o'n calonnau yn dra-ofidus am danynt, gan ymegnio i ymarfer pob moddion da iw gorchfygu, ac i fyned allan o honynt. Oh pâr i ni glywed gallu marwolaeth Crist yn llâdd pechod yn ein cyrph marwol; a rhinwedd ei adg•fodiad yn cyfodi ein heneidiau i newydd-deb buchedd. Ymchwel ein calonnau, gostwng ein trachwantau, adneŵydda ein meddyliau, glanhá ein hanian; ac na chynnwys mo honom i soddi yn ein hanwireddau budron, ac yn nifyrrwch pechodlawn yr oes hon, yr hyn both a ddygodd filoedd bendramwnwgl i ddestryw tragwyddol: Eithr gweithia ni beunydd fwyfwy at agwedd a chyffelybiaeth dy Fab Jesu Grist, fel y gallom mewn cyfiawnder, a sancteiddrwydd, dy wasanaethu a'th ogoneddu; megis gan fyw yn dy ofn, a marw yn dy ffafr, y caffom (yn yr amser á osodaist) gyfran o adgyfodiad y cyfiawn, i fywyd tragwyddol. Yn y cyfamser O Arglwydd, chwanega ynom ffydd yn addewidion hyfryd dy Efengyl, edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, diogelwch o'n gobaith yn dy addewidion, ofn dy enw, casineb ein pechodau, a chariad tu ac at dy blant di: yn enwedig tu ac at y rhai y gwyddom fod arnynt eisiau ein cymmorth a'n diddanwch: megis ⟨p. 194⟩trwy ffrwythau duwioldeb, a bywyd cyfiawn, y byddom sicr o fod dy Yspryd sanctaidd yn aros ynom, a'n bod yn blant i ti trwy fabwys a rhâd. A channiadhâ i ni o Dâd daionus, barhâd o iechyd, tanghneddyf, a chynhaliaeth, a'r holl bethau eraill oddiallan, cyn belled, ac y gwelo dy Ddwywawl Ddoethineb fod yn addas, ac yn angenrhaid, i bob vn o honom.