Arferiad Duwiolder in yr Hwyr.Arferiad Duwiolder yn yr Hwyr.
pp. 189–19124 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Arferiad Duwiolder in yr Hwyr.
Arferiad Duwiolder yn yr Hwyr.
In yr Hwyr pan fo 'n amser cyfaddas i ddyfod i gyfannedd ac esmwythdra, galw ynghyd drachefn ⟨p. 190⟩dy holl deulu. Darllain bennod in yr un môdd ac yr adroddwyd it in y Borau. Yno (er mwyn dilyn arfer sanctaidd ein Harglwydd a'i ddiscyblion) cân Psalm: Eithr wrth ganu Psalmau, nail a'i ar ôl Swpper, neu ryw amser arall, cadw y rheoledigaeth hon, sydd in canlyn.
Yn yr Hwyr pan fo 'n amser cyfaddas i ddyfod i gyfannedd ac esmwythdra, galw ynghyd drachefn ⟨p. 190⟩dy holl deulu. Darllain bennod yn yr un môdd ac yr adroddwyd it yn y Borau. Yno (er mwyn dilyn arfer sanctaidd ein Harglwydd a'i ddiscyblion) cân Psalm: Eithr wrth ganu Psalmau, naill a'i ar ôl Swpper, neu ryw amser arall, cadw y rheoledigaeth hon, sydd yn canlyn.
Rheolau iw cadw wrth ganu Psalmau.
1. Gochel ganu y Psalmau bendigedig o ran difyrwch cyffredinol; megis y bid rhai dynion o ysprydau aflan, y rhai a ganant y Psalmau sanctaidd ynghymmysc a dyrifau halogedig. Gair Duw ydynt, na chymmer mo honynt in dy enau in offer.
1. GOchel ganu y Psalmau bendigedig o ran difyrwch cyffredinol; megis y bydd rhai dynion o ysprydau aflan, y rhai a ganant y Psalmau sanctaidd ynghymmysc a dyrifau halogedig. Gair Duw ydynt, na chymmer mo honynt yn dy enau yn ofer.