A81315:201
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Phila. Dangoswch allan or Scrythyrau fod balchder mor anguriol, ac mor athrugar.
Theol. Ffiaidd gan yr Arglwydd bob din uchel-gallon. 1Yr hyn â ddengys in eglur fod duw in gwrthwynebu, ac in casau y beilchion. Ac onid peth ofnadwy dybygwch chwi, i din fod in ffiaidd gan dduw? Ac in yr un bennod y dywed. Balchder sydd in mined o flaen dinistr, 2ac uchelder yspryd o flaen cwymp. Ymma y dengys yr yspryd glân fod balchder in rhagflaenu rhyw ⟨p. 38⟩gwymp tra-mawr, nail ai trwy anair, neu golly ei gymmeriad. Canys Fên wir ddihareb a ddywed: Balchder a gaiff gwymp. A mynych y gwelir, pan fyddo dynionwedi ymgodi uchaf, yna y maent in nessaf i syrthio: Megis wrth siamplau Haman, Nebuchadnezzar, a Herod, y gwelir in eglur. Pan fyddo'r ddueg in chwyddo, y bid y corph mewn mannau eraill in darfod: felly pan fo'r gallon in chwyddedig drwy falchder y bid yr holl din in agos i ddinis•r. Heb law hyn yr yspryd glan a ddywed.3 Yr Arglwydd a ddiareiddia dŷ y beilchion. A Job a ddywed am y cyfryw ddynion. Tân heb ei chwythu ai hyffa hwynt. Mi a dybygwn wrth hyn pe bay ynom gŷmmaint a gwreichionen o râs, y gallai yr ymadroddion erchyll hyn, a ddywaid yr yspryd glan, ein darostwng, a thynnu i lawr ein balchder: in enwedig gan fod yr Scrythyrau in t•stiolaethu fod duw in gwrthladd y beilchion, ac in ymosod in bwrpassol iw herbyn: Ac am hynny gwae hwynt-hwy. Canys os duw a ymddyru in eu herbyn, pwy a ddichon ei attal ef? yr hwn a wna beth bynnag a fynno.
Theol. Ffiaidd gan yr Arglwydd bob dyn vchel-galon. 1