A81315:224
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Beth addwedaf am danynt; and duw a dosturio wrthym. Canys y cyfryw bethau sy'n tynnu i lawr lîd, a dial duw arnom oll. Megis y dywed yr Apostol.1 O achos y pethau hyn y daw digofaint duw ar blant yr anufydd-dod. Ac in wir ddigelwydd, y mae i ni achos i ofni y dŵg duw dialled arnom am ein ffiaidd falchder.
Theol. Beth addwedaf am danynt; ond duw a dosturio wrthym. Canys y cyfryw bethau sy'n tynnu i lawr lîd, a dial duw arnom oll. Megis y dywed yr Apostol.1 O achos y pethau hyn y daw digofaint duw ar blant yr anufydd-dod. Ac yn wir ddigelwydd, y mae i ni achos i ofni y dŵg duw ddialedd arnom am ein ffiaidd falchder.
- 1Col. 3.6.
Asune. Beth a ddywedwch am y rwffian try-phlyg, a phedwar-plyg, y rhai â arferir in y dyddiau hyn in sathredig? Ac am y ffardingal gwmpassog, y cudynau lleision, y topynnau, y crych-wallt, ar holl arfer newydd a ddychymmygir, ac a adnewyddir beunydd?
Asune. Beth a ddywedwch am y rwffian tri-phlyg, a phedwar-plyg, y rhai â arferir yn y dyddiau hyn yn sathredig? Ac am y ffardingal gwmpassog, y cudynau lleision, y topynnau, y crych-wallt, ar holl arfer newydd a ddychymmygir, ac a adnewyddir beunydd?
Theol. Hyn â ddywedaf, may pell ydynt oddiwrth y symlrwydd, ar lledneisrwydd a fu in yr oesoedd gynt: Nid adwaenai ein tadau ddim or fâth beth. Darllain yr ydym am William Rufus, a fu gynt in frenin ar y deyrnas ymma, pan ddûg ei stafelludd atto bâr o hosanau newydd, ofyn o honaw beth a gostiasent, attebodd yntef, may triswllt; yno y Brenin in ddigllon a orchymynnodd eisio iddo bâr a gostiei farc.