A81315:279
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Phila. Digon i chwi hyn am yr ail arwydd o ddamnedigaeth: bellach own rhagom attolwg at y trydydd self cybydddod. Ac fell y dangosasoch i ni dull, ac agwedd ⟨p. 73⟩y ddau gyntaf, felly dinoethwch hwn hefyd, fell y gwelo pawb mor anferth yw'r anghen fill, ac y cymmeller hwynt iw gasau, ac iw ffieiddio ef.
Phila. Digon i chwi hyn am yr ail arwydd o ddamnedigaeth: bellach awn rhagom attolwg at y trydydd sef cybydddod. Ac fel y dangosasoch i ni ddull, ac agwedd ⟨p. 73⟩y ddau gyntaf, felly dinoethwch hwn hefyd, fel y gwelo pawb mor anferth yw'r anghen fil, ac y cymmeller hwynt iw gasau, ac iw ffieiddio ef.
Theol. Mi a ewyllysiwn wneuthur eich damuniad, eithr in hyn o beth, nid yw bossibl i mi allu cyflawni hynny fell y mae'r achos in gofyn; oblegid ni ddichon calon ddirnad na thafod dreuthu mor ffiaidd yw'r bay anafus hwn: Canys Cybydd-dra yw'r ellyll gwrthunaf, ar cythraul anferthaf or lleill ei gyd. Je hwn yw'r Belzebwb mawr. Ac am hynny ni allwn i in fy myw ei bortreiadu ef in ddigon hynod. And mi a wnaf fyngoreu ar ei ddiosc ef in noethlwm fell yr adwaener tan ei liw, ai arwydd. Ac er bod dynion a meddyliau daiarol, ac wedi eu dallu o gybdd-dra in tybied body treccyn hwn, in hawddgar, in brydferth, in gy weithas; ac am hynny a'u croesawant, ac a'u coleddant megis pe bay rhyw ddedwyddyd ynddo: etto darfyddo i mi ddangos iddynt ei wynepryd ef mewn drych eglur (self cywir ddrych air Duw) gobeithio na roddant mwyach eu traserch arno, eithr y diflasant ef: myfi gan hynny a ddaliaf allan ger eu bron y drych hwn.
Theol. Mi a ewyllysiwn wneuthur eich damuniad, eithr yn hyn o beth, nid yw bossibl i mi allu cyflawni hynny fel y mae'r achos yn gofyn; oblegid ni ddichon calon ddirnad na thafod dreuthu mor ffiaidd yw'r bai anafus hwn: Canys Cybydd-dra yw'r ellyll gwrthunaf, ar cythraul anferthaf or lleill ei gyd. Ie hwn yw'r Belzebwb mawr. Ac am hynny ni allwn i yn fy myw ei bortreiadu ef yn ddigon hynod. Ond mi a wnaf fyngoreu ar ei ddiosc ef yn noethlwm fel yr adwaener tan ei liw, ai arwydd. Ac er bod dynion a meddyliau daiarol, ac wedi eu dallu o gybdd-dra yn tybied bod y treccyn hwn, yn hawddgar, yn brydferth, yn gy weithas; ac am hynny a'u croesawant, ac a'u coleddant megis pe bai rhyw ddedwyddyd ynddo: etto darfyddo i mi ddangos iddynt ei wynepryd ef mewn drych eglur (sef cywir ddrych air Duw) gobeithio na roddant mwyach eu traserch arno, eithr y diflasant ef: myfi gan hynny a ddaliaf allan ger eu bron y drych hwn.