A81315:292
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Phila. Chwi a'n bodlonasoch ni in dda jawn in y pwngc hwn. Bellach moeswch glywed pa ray yw prif achosion cybydddod.
Phila. Chwi a'n bodlonasoch ni yn dda iawn yn y pwngc hwn. Bellach moeswch glywed pa rai yw prif achosion cybydddod.
Theol. Dau achos pendifaddeu sy'n peri i ddynion fod in chwannog. Y nail yw anwybodaeth o ragluniaeth Duw, ac anymddiried ynddo. Y llall yw diffig profi, archwaethu, a chlywed blâs ar bethau nefol. Oblegid hid oni chaffo dynion flâs ar bethau gwell, hwy a fawrhânt y pethau hyn: hid oni chaffont gydnabyddiaeth ar nefoedd, hwy a garant y ddaiar, hid oni byddont crefyddol, hwy a fyddant gybyddol. O hyn hawdd yw dirnad yr achos pa harn yr ydys mor channog i'r pethau bydol hyn, ac in mawrhau cyfoeth, rhwysc bydol, meluswedd, a golud; self oherwydd nad adwaenant bethau gwell, na phrofasant erioed pa flas sydd ar bethau tragwyddol.
Theol. Dau achos pendifaddeu sy'n peri i ddynion fod yn chwannog. Y naill yw anwybodaeth o ragluniaeth Duw, ac anymddiried ynddo. Y llall yw diffig profi, archwaethu, a chlywed blâs ar bethau nefol. Oblegid hyd oni chaffo dynion flâs ar bethau gwell, hwy a fawrhânt y pethau hyn: hyd oni chaffont gydnabyddiaeth ar nefoedd, hwy a garant y ddaiar, hyd oni byddont crefyddol, hwy a fyddant gybyddol. O hyn hawdd yw dirnad yr achos pa harn yr ydys mor channog i'r pethau bydol hyn, ac yn mawrhau cyfoeth, rhwysc bydol, meluswedd, a golud; sef oherwydd nad adwaenant bethau gwell, na phrofasant erioed pa flas sydd ar bethau tragwyddol.
Phila. Megis yr adroddasoch i ni achosion cybydd-dra: felly moeswch glywed bellach pa faith sydd ar ei ffrwyth.
Phila. Megis yr adroddasoch i ni achosion cybydd-dra: felly moeswch glywed bellach pa fath sydd ar ei ffrwyth.