A81315:362
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Theol. Y pechod hwn sydd o naturiaeth arall amgenach na'r hwn o'r blaen. Pechod yw hwn in erbyn y dablen gyntaf, ac in tuedd-bennu at Dduw ei hûn. Oblegid dirmygu yr Efengyl yw dirmygu Duw ei hûn, eiddo yr hwn yw'r Efengyl. Os dirmygu Gwenidogion yr Efengyl yw dirmygu Duw, a Christ,1 fell y dywed ein Harglwydd Jesus, pa faint mwy yw dirmygu yr Efengyl ei hun. Am hynny, peth peryglus yw ymgymmyrredd a'r pechod hwn: Megis trîn arfau llifed, neu fod in bryssur ym matterion Brenhinoedd, neu gyffwrdd ag Arch y Cyfammod, neu neshau at y mynydd sanctaidd: yr hyn bethau oll oeddynt in lawn perigl, ac enbydrwydd; Je hyn syddei gymmaint â dibrisio y Sacrament: peth ni ddylid ymhel ag ef, mwy na difenwi Brenin, neu boeri in wyneb Duw, neu Deyrn-frâd in erbyn Brenin y Gogoniant. ⟨p. 134⟩Am hynny y pechod hwn in anad un ni ellir eioddef, nac mewn mod in y bid cyd-ddwyn ag ef: Canys â ddichon Brenin bydol oddef dirmygu ei gyfreithiau? A ddichon efe na ddigio am ei ddiystyru ei hun? A all efe oddef i neb boeri ar ei deyrnwialen, neu daflu-carreg atti? Na all in wir, ac nis gwna. Am hynny y dywed yr yspryd Glán: Yr hwn a dorrai gyfraith Moses â roddid i farwolaeth heb drugaredd tan ddau, neu dry o dystion: Pa faint mwy dialled dybygwch chwi, y bernir heuddu o'r hwn a sathro fâb Duw, ac a farno in aflân waed y cyfammod, trwy'r hwn y sancteiddiwyd ef,2 ac a ddifenwo yspryd y Grâs. Drachefn os cadarn oedd y gair a ddodwyd drwy Angelion: Ac os derbynniodd pob camwedd, ac anvfydd-dod gyfiawn daledigaeth, pa fodd y diangwn ni os esculuswn jechydwriaeth gymmaint? Oni ddiangodd y rhai ai gwrthwynebasant ef, 3yr hwn oedd in llefavu in enw Duw ar y ddaiar: Nyni in hytrach o lawyer ni ddiangwn os gwrthwynebwn yr hwn sydd in dywedyd or Nefoedd. Am hynny y dywed ein Jachawdwr Christ: Y bid esmwythach i Sodom did y farn nac i ddirmygwyr yr Efengyl. 4Efe â ddywed ym mhellach. Brenhines y dehau â gyfyd did y farn gyd a'r genedlaeth hon, ac ai condemna hi: 5