Theol. Y cyfryw ray ac y soniwch amdanynt, sydd anhawdd i cael ym mhlith meibion dynion. Eleirch duon ydynt ar y ddaiar: brain gwynion: adar anaml ydynt, odid or fâth. Oblegid nid oes and rhifedi bychan o'r rhai a ddywedant wir o'u calon: etto gobeithio fôd rhai o'r fâth; and gan mwyaf, ac ym mhlith y rhan fwyaf, celwydd, gweniaith, a thwyll sy'n dwyn y rhwysc ⟨p. 169⟩ei gŷd. Nid oes dim gwirionedd, dim gonestrwydd, dim cydwybod, dim diniweidrwydd, dim purdeb ym mhlith dynion in yr amserau llygredig hyn. Ffyddlondeb, a gwirionedd â ymadawsant ymmaith in llwyr. Ac fell y dywed y Brenhinol Brophwyd, Pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion: 1offered â ddywedant bomb un wrth ei gymmydog, a gwefus wenhieithgar, ac a chalon ddau ddyblyg y llefarant.
Dynion in y dyddiau hyn ydynt in ymroi i ddyscu celfyddyd y celwydd, gweniaith, parllyg, ffûg a rhagrith: y mae ganddynt gallon a chalon, self dwy gallon. Y mae ganddynt fêl un eu genau, â bustl in eu calonnau. Eu tafodau ydynt mor diner ac y menyn, neu olew: And eu calonnau ydynt in lawn o chwerwedd, gwenwyn, a wermod. Lawn ydynt mewn golwg o fedrusrwydd, boneddigeiddrwydd, a moesau da, pride nad oes, na gwirionedd nac uniondeb in eu ceudod oddifewn. Hwy â ddywedant wrthych in dêg, pan ewyllysient dory gwythen eich gwaed, hwy â ddangosan• i chwi wyneb siriol, pan ewyllysient fwyta eich calon gyd â garlleg. In y golwg oddl allan yr ymddygant in hawddgar, pan fyddo eu calonnau in lawn gwenwyn, â drwg fwriad: yr hiliogaeth gwiberaidd hyn â ddisgwyliant eu hamser, a'u cyfle hid oni gaffont ddal din ar yr adwy ⟨p. 170⟩wannaf, ac yno hwy a'u brathant, ac â gymmerant eu mantais arno: y Corgŵn mw•n-ffeilsion hyn ni chyfarthant dimness brathu in gyntaf.
Gostwng gwarr â wnânt, llechu, ac ymguddio nes canfod eu mantais, ac yno yr ymddangosant in eu rhyw eu hûn; yno y rhuthrant, ac yr anafant, os gallant.
Y dynion hyn ydynt debig i lynnoedd, y rhai ydynt ddyfnaf, lle y byddant arafaf: tebig i graig beryglus guddiedig tan dawel fôr digyffro. Neu fell y dywed y Cenedloedd: Tebig i ganiad y fôr forwyn, yr hwn yw destruw y morwyr: Neu fell chwibanogl yr adarwr, yr hon yw marwolaeth yr adar: Fell abwyd y pyscodwyr yr hwn yw gwenwyn y pyscod. Tebig ir adar Harpiaid, â chanddynt wynebau merchedaidd, and yspagau Eryrod: Neu debig i'r Hyena yr hwn â ymchwedleva fell cyfaill, and â lâdd fell gelyn. Neu fell y dywed yr Scrythur: Tebig i Joah Capten y llu;
Theol. Y cyfryw rai ac y soniwch amdanynt, sydd anhawdd i cael ym mhlith meibion dynion. Eleirch duon ydynt ar y ddaiar: brain gwynion: adar anaml ydynt, odid or fâth. Oblegid nid oes ond rhifedi bychan o'r rhai a ddywedant wir o'u calon: etto gobeithio fôd rhai o'r fâth; ond gan mwyaf, ac ym mhlith y rhan fwyaf, celwydd, gweniaith, a thwyll sy'n dwyn y rhwysc ⟨p. 169⟩ei gŷd. Nid oes dim gwirionedd, dim gonestrwydd, dim cydwybod, dim diniweidrwydd, dim purdeb ym mhlith dynion yn yr amserau llygredig hyn. Ffyddlondeb, a gwirionedd â ymadawsant ymmaith yn llwyr. Ac fel y dywed y Brenhinol Brophwyd, Pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion: 1oferedd â ddywedant bōb vn wrth ei gymmydog, a gwefus wenhieithgar, ac a chalon ddau ddyblyg y llefarant.
Dynion yn y dyddiau hyn ydynt yn ymroi i ddyscu celfyddyd y celwydd, gweniaith, parllyg, ffûg a rhagrith: y mae ganddynt galon a chalon, sef dwy galon. Y mae ganddynt fêl vn eu genau, â bustl yn eu calonnau. Eu tafodau ydynt mor dyner ac y menyn, neu olew: Ond eu calonnau ydynt yn llawn o chwerwedd, gwenwyn, a wermod. Llawn ydynt mewn golwg o fedrusrwydd, boneddigeiddrwydd, a moesau da, pryd nad oes, na gwirionedd nac vniondeb yn eu ceudod oddifewn. Hwy â ddywedant wrthych yn dêg, pan ewyllysient dorri gwythen eich gwaed, hwy â ddangosan• i chwi wyneb siriol, pan ewyllysient fwyta eich calon gyd â garlleg. Yn y golwg oddl allan yr ymddygant yn hawddgar, pan fyddo eu calonnau yn llawn gwenwyn, â drwg fwriad: yr hiliogaeth gwiberaidd hyn â ddisgwyliant eu hamser, a'u cyfle hyd oni gaffont ddal dyn ar yr adwy ⟨p. 170⟩wannaf, ac yno hwy a'u brathant, ac â gymmerant eu mantais arno: y Corgŵn mw•n-ffeilsion hyn ni chyfarthant ddim nes brathu yn gyntaf.
Gostwng gwarr â wnânt, llechu, ac ymguddio nes canfod eu mantais, ac yno yr ymddangosant yn eu rhyw eu hûn; yno y rhuthrant, ac yr anafant, os gallant.
Y dynion hyn ydynt debig i lynnoedd, y rhai ydynt ddyfnaf, lle y byddant arafaf: tebig i graig beryglus guddiedig tan dawel fôr digyffro. Neu fel y dywed y Cenedloedd: Tebig i ganiad y fôr forwyn, yr hwn yw destruw y morwyr: Neu fel chwibanogl yr adarwr, yr hon yw marwolaeth yr adar: Fel abwyd y pyscodwyr yr hwn yw gwenwyn y pyscod. Tebig ir adar Harpiaid, â chanddynt wynebau merchedaidd, ond yspagau Eryrod: Neu debig i'r Hyena yr hwn â ymchwedleua fel cyfaill, ond â lâdd fel gelyn. Neu fel y dywed yr Scrythur: Tebig i Joah Capten y llu;
- 1Psal. 12.