A81315:636
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Asune. Bellach, gadewch glywed eich rhesymmau.
Theol. Os at reswm y deuwn, ninny â allwn ryfeddu in hytrach y bid neb cadwedig, na bod ychydig in gadwedig. O•legid y mae (wedi eu gosod i gynllwyn i ni ar y ford) yr holl rwystrau, a'r lluddias a'r a ddichon bod: a'r rheini in gystal oddi mewn i ni ein hunain, ac oddi allan. Y mae genym rwysc y bid ei gyd i'n herbyn. Y mae in sefyll i'n herbyn, holl gythreuliaid uffern, a'u holl gyrn, a'u ponnau, a'u nerth anguriol, a'u ystrywiau ⟨p. 290⟩anfeidrol, eu cyfrwysdra cnoccellus, eu dichellion twyllodrus, a'u profedigaethau hoccedus. Dymma ffrŵd grêf in rhedeg in chwyrn i'n herbyn. Ina y mae i'n herbyn, y bid presennol hwn, a chyd ag ef nifer anneirif o amryw fâth ar abwyd, hoenyunau, rhwydau, maglau, a hualau, i'n dala, i'n lleffetheirio, i'n maglu. In y nail fan y daw bud, a meluswedd, a golud, ac anrhydedd, cyfoeth, a goruchafiaeth, swyddymgais, a chybydd-dod. Mewn man arall y daw llu Brehinol o elynion ysprydol, ac anweledig. In ddiweddaf y mae ein cnawd ein hunain, self ein naturiaeth lygredig i'n herbyn: Je ninny ein hunain in ein herbyn ein hunain. A chin beryccled gelynion i'n jechydwriaeth ydym ni ein hunain, ac ydyw y bid, neu'r Cythraul: Canys ein deal, an rheswm, ein ewyllys, a'n gwyniau ydyn• oll i'n herbyn. Ein synwyr anianol sydd elyn i ni. Ein trachwantau, a'n nwydau afreolus ydynt in cryfhau, ac in cyfnerthu profedigaethau Satan. Ac y maent oll wedi gwneuthur cyngrair ag ef in ein herbyn ni, ac in erbyn ein jechydwriaeth. Ymladd y maent oll tan ei faner ef, a derbyn eu cyflog ganddo. A hyn sydd galled, a thôst arnom ni, fod, ⟨p. 291⟩gan y cythraul, oddimewn i ni ein hunain, blaid i'n herbyn, a'n bod ninnau in dwyn ynom beunydd ein gelyn pennaf: yr hwn sydd barod, ar bob tro did a nôs, i'n bradychu i ddwylo Satan: je i agoryd y drŵs, ac iw ollwng ef i mewn i dory ein gyddfau: yma gan hynny y gwelwn fod llu mawr o elynion ofnadwy, ac megis lleng o Angelion in gwneuthur cynllwyn in erbyn ein eneidiau. O id ydym ni druein mewn cyflwr gresynol, y rhai mal hyn â fradychir, ac a warcheir o bob parth? Gan hynny wrth ystyried y cwbl, nid oes i ni achos cyfiawn i ryfeddu, y bid neb in gadwedig? Oblegid pwy ni wêl, pwy ni wŷr fod milfyrddiwn in mined ben-dramwnwgl i ddestryw, nail ai drwy brofedigaethau y bid, ai'r cnawd, ai'r cythraul?