A81315:691
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Antil. Nid wyfi lythyrennog, am hynny ni fedraf fi farnu am yr achosion hynny. Ac am wrando Pregethau nid wyf in cael ennyd i redegan iddynt. Y mae gennif rywbeth arall iw wneuthur. Y rhai sy'n medru darllain ar lyfrau, ac in gwrando cymmaint o bregethau, barnant hwy am yr achosion hyn. Ni bid i mi â wnelwyf à hwynt; ni perthynant i mi.
Antil. Nid wyfi lythyrennog, am hynny ni fedraf fi farnu am yr achosion hynny. Ac am wrando Pregethau nid wyf yn cael ennyd i redegan iddynt. Y mae gennif rywbeth arall iw wneuthur. Y rhai sy'n medru darllain ar lyfrau, ac yn gwrando cymmaint o bregethau, barnant hwy am yr achosion hyn. Ni bydd i mi â wnelwyf à hwynt; ni perthynant i mi.
Theol. Etto er hyn ei gyd chwi â ddylech ddarllain yr Scrythyrau, a gwrando Pregethu gair Duw, er mwyn gallu o honoch farnu rhwng gwirionedd, a ffalsedd mewn achosion Crefydd.
Antil. Y mae in debig eich bod in tybied nas gall neb fod in gadwedig heb Pregethu, a bod pawb in rhwymedig i gynniwair at bregethau, eithr nid wyfi o'ch meddwl chwi in hynny.
Antil. Y mae yn debig eich bod yn tybied nas gall neb fod yn gadwedig heb Pregethu, a bod pawb yn rhwymedig i gynniwair at bregethau, eithr nid wyfi o'ch meddwl chwi yn hynny.