A81315:718
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled…Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled…
Llwybr hyffordd in cyfarwyddo i'r nefoedd. In yr hwn y dichon din ystyriol welled ei gyswr presennol, pan ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, in gyntaf in Saesonaec, o waith Arthur Dent ...Llwybr hyffordd yn cyfarwyddo i'r nefoedd. Yn yr hvvn y dichon dyn ystyriol weled ei gyswr presennol, pa un ydyw a'i cadwedig, a'i colledig. / Wedi ei ofod allan ar dull ymddiddannion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent ...
Printiedig in Llundain : gan Bennet Griffin in y Flwyddyn, 1682Printiedig yn Llundain : gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682
Llwybr din anghyfarwydd I'r nefoedd.Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Antil. Nid gwaeth gennifi am ei gariad ef: cadwed ei gariad iddo ei hûn, pa beth y mae efe in ei dybied am danaf? ydyw efe in meddwl nad oes gennifi enaid iw gadw in gystal ag yntef? Neu nad oes arnaf ddim gofal am fy jechydwriaeth? Mi â fynnwn pes gwypei fy mod i in gofalu am fy enaid in gystal ag yntef, er nad wyf in gymmaint fy rhodres i ddangos golwg têg oddiallan. Oblegit nid aur yw pob peth a ddiscleirio. Y mae gennif gystal meddwl ag yntef, er na fedrwyf ei dreuthu allan.
Antil. Nid gwaeth gennifi am ei gariad ef: cadwed ei gariad iddo ei hûn, pa beth y mae efe yn ei dybied am danaf? ydyw efe yn meddwl nad oes gennifi enaid iw gadw yn gystal ag yntef? Neu nad oes arnaf ddim gofal am fy iechydwriaeth? Mi â fynnwn pes gwypei fy mod i yn gofalu am fy enaid yn gystal ag yntef, er nad wyf yn gymmaint fy rhodres i ddangos golwg têg oddiallan. Oblegit nid aur yw pob peth a ddiscleirio. Y mae gennif gystal meddwl ag yntef, er na fedrwyf ei dreuthu allan.
Theol. Hawdd y gelid hepcor y geiriau hyn. Gobeithio y llarieiddiwch ac y gwellhewch eich buchedd, ac y nessewch at Dduw o hyn allan.
Theol. Hawdd y gellid hepcor y geiriau hyn. Gobeithio y llarieiddiwch ac y gwellhewch eich buchedd, ac y nessewch at Dduw o hyn allan.
Antil. In wir Sir, chwi â ellwch dybied o honof fell y gweloch in dda: And bydded hyspys i chwi, fod arnaf fwy gofal am fy enaid nag y gŵyr y bid. I Dduw yr wyf in diolch amdano, yr wyf in dywedyd fyngweddi bob nôs hwyn gyntaf yr elwyf i'm gwely. Ac oni wna gweddiau da i ni ddim daioni, Duw a'n helpio. Mi â wasanaethais Dduw erioed in union, ac in gywir, ac ai cedwais in fy meddwl. Yr wyf in gwneuthur i eraill fell y mynnwn wneuthur i minneu: Yr wyf in cyrchu i'm heglwys, ac in ddiwyd mewn gweddi tra fyddwyf yno. A gobeithio nad wyf cynddrŵg ac y